Contractau 30 awr a 25 awr ar gael
Ymunwch â'n Tîm fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol mewn Gwasanaethau Byw â Chymorth!
A ydych yn angerddol am rymuso unigolion ag anableddau dysgu a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau? A oes gennych y brwdfrydedd, y creadigrwydd, a'r hyblygrwydd i gynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi!
Amdanom ni: Mae ein gwasanaethau Byw â Chymorth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu cymorth hanfodol i unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, ymddygiad cymhleth, anableddau corfforol, dementia ac anghenion iechyd cymhleth. Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo dewis, annibyniaeth, a gofal wedi'i bersonoli i'r bobl rydym yn eu cefnogi.
Y rôl: Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a thosturiol i ymuno â'n tîm fel Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Yn y rôl hon, byddwch yn:
Grymuso unigolion i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus am bob agwedd ar eu bywydau.
Darparu cymorth sensitif a deallgar, gan fynd i'r afael ag anghenion corfforol, ymarferol, emosiynol, a galwedigaethol.
Cynorthwyo â thasgau cartref, siopa, paratoi bwyd, hylendid personol, a gweithgareddau cymdeithasol.
Annog a chefnogi unigolion i integreiddio yn eu cymuned leol, gan hyrwyddo presenoldeb corfforol a chymdeithasol mewn cyfleusterau cymunedol fel gweithgareddau addysgol, galwedigaethol, a hamdden.
Gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol, derbyn hyfforddiant priodol, goruchwyliaeth un i un, a chyfarfodydd tîm rheolaidd.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Amgylchedd gwaith cefnogol a dynamig.
Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa.
Cyfraddau tâl cystadleuol: £13.26 yr awr, £17.68 yr awr ar benwythnosau, £17.68 yr awr am shifftiau nos yn ystod yr wythnos, £19.89 yr awr am shifftiau nos ar benwythnosau.
Lwfans ychwanegol am ddyletswyddau cysgu i mewn.
Rhaglen sefydlu a fydd yn rhoi'r hyder i chi ymgymryd â'ch rôl.
Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth.
Hawl i wyliau blynyddol.
Mynediad at gynlluniau gwobrwyo staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro a llawer mwy.
Cymorth iechyd a llesiant galwedigaethol.
Gofynion:
Agwedd gadarnhaol a chefnogol gyda dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu pobl ag anableddau.
Hyblygrwydd i weithio shifftiau, gan gynnwys penwythnosau, a gwyliau banc, fel sy'n ofynnol gan anghenion y gwasanaeth.
Ymrwymiad i hyrwyddo gofal wedi'i bersonoli a safonau uchel o wasanaeth.
Ymunwch â ni: Os ydych yn barod i ymgymryd â'r her werth chweil hon a chyfrannu at lwyddiant ein Gwasanaethau Byw â Chymorth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gwnewch gais nawr a bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar y Penwythnos, yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person