37 awr yr wythnos
Cyfnod penodol hyd at 12 mis
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
A ydych yn angerddol am amddiffyn hawliau pobl a chymhwyso egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i gefnogi unigolion i fyw gydag urddas, dewis ac annibyniaeth?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am weithiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol llawn cymhelliant a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) fel Cydlynydd DoLS a Diogelu. Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) gan gynnwys datblygiadau sy'n deillio o'r dyfarniad yn A Reference by the Attorney General for Northern Ireland (AGNI), yn cydlynu prosesau statudol cymhleth, yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau diogelu, ac yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau partner i sicrhau bod oedolion mewn perygl yn cael y cymorth a'r amddiffyniad cywir.
Byddwch yn hyderus wrth gymhwyso deddfwriaeth galluedd meddyliol, cydbwyso risg â hawliau unigol, a hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau ar gyfer y ddyletswydd ddiogelu, asesu Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd (PPN), gweithgarwch sicrhau ansawdd a chefnogi Aseswyr Lles Pennaf ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu arbenigedd wrth helpu i lunio ymarfer diogelu ac ymarfer DoLS o ansawdd uchel mewn awdurdod lleol cefnogol, blaengar.
Ymunwch â ni a helpu i sicrhau bod rhai o'r aelodau mwyaf agored i niwed o'n cymuned yn cael eu hawliau, eu llais a'u dewisiadau wedi'u diogelu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo llesiant oedolion mewn perygl.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Bethan Jones, Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion a DoLS ar bethan.jones@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 28 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 9 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person