37 awr yr wythnos
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n Gwasanaeth MASH yn y rôl Rheolwr Tîm.
Byddwch yn gyfrifol am reoli'r tîm o ddydd i ddydd gan gynnwys y sgrinwyr Cymorth Cynnar ac Atal.
Y MASH yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Gofal Cymdeithasol plant, mae'r tîm yn gyfrifol am roi cyngor i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol, gan wneud penderfyniadau mewn perthynas â chysylltiadau a chynnal asesiadau Yr Hyn sy'n Bwysig o ansawdd da.
PRIF GYFRIFOLDEBAU A GWEITHGAREDDAU
- Rheolaeth gyffredinol dros MASH drwy ddarparu arweinyddiaeth, cymhelliant a chyfeiriad i staff yn y gwasanaeth. Dyrannu a blaenoriaethu gwaith y tîm gan sicrhau penderfyniadau prydlon a phriodol ar y pwynt cyswllt, asesiad priodol o achosion mewn ffordd amserol a defnyddio adnoddau i ddiwallu anghenion a nodwyd.
- Cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a dylunio gwasanaethau.
- Rheoli staff ac ymgymryd â goruchwylio ac arfarnu, gan roi cyngor ac ymgynghori i staff gwaith cymdeithasol a staff cymorth arall yn unol â'r polisi. Rheoli staff yn unol â fframweithiau polisi a gweithdrefnau Adnoddau Dynol a glynu atynt.
- Dadansoddi gwybodaeth am berfformiad i gynorthwyo amseroldeb asesiadau, adolygiadau a pherfformiad arall arall y cyflwynir adroddiadau arno yn ffurfiol. Sicrhau ansawdd a chynnwys asesiadau a chynlluniau yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol. Gwneud penderfyniadau a dyfarniadau am y perygl o gam-drin o fewn y fframwaith rheoli y cytunwyd arno.
- Sicrhau bod cynllunio parhad yn ei le a'i fod yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau a fydd yn rhoi sicrwydd o ran ymlyniad a pharhad gofal.
- Cyfrannu at gyfarfodydd strategol/rheoli a gweithio amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol effeithiol. Cynorthwyo'r Rheolwr Grŵp yng nghyfrifoldeb y Rheolwr Grŵp i sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon gwaith y maes gwasanaeth gan gynnwys gwerthuso cyflawni amcanion, targedau, blaenoriaethau a safonau. Cynorthwyo’r Uwch Dîm Rheoli wrth ddatblygu strategaeth, polisi a gweithdrefnau.
- Cymryd rhan mewn rhaglenni ymsefydlu a rhaglenni hyfforddi eraill i staff. Rhoi gwybod i'r Rheolwr Grŵp am gamau gweithredu sy'n angenrheidiol i ddatblygu cymwyseddau staff yn y maes gwasanaeth yn ogystal â'r angen posibl i gychwyn gweithdrefnau disgyblu a chymryd rhan yn y gweithdrefnau hyn lle y bo angen.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r model Arwyddion Diogelwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar sut i ymgorffori'r ffordd hon o weithio yn eich swyddogaethau dyddiol.
Nodwch y bydd Fetio Manwl gan yr Heddlu yn angenrheidiol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Byddwch yn cael Taliad Atodol ar sail y Farchnad o £4,000 a bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd ffoniwch Raeanna Grainger, Rheolwr Grŵp ar 01656 642320.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 27 Awst 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person