37 awr yr wythnos
Gweithio fel rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar anghenion uniongyrchol unigolion i gynorthwyo eu hadferiad ar ôl cyfnod o salwch meddwl.
Ochr yn ochr ag uwch aelodau staff byddwch yn cymryd rhan wrth asesu unigolion a gafodd eu hatgyfeirio i ARC drwy lwybrau Gofal Sylfaenol ac Eilaidd, a bydd yn ofynnol cyflawni cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt yn seiliedig ar anghenion y person.
Bydd hefyd yn ofynnol i chi gynnig gwybodaeth a chyngor i aelodau o'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r gwasanaeth am arweiniad a chymorth mewn perthynas â'u llesiant emosiynol. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o'r sefydliadau a'r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo llesiant ac iechyd meddwl pobl.
Bydd gennych ddealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl a'r effaith mae'r rhain yn ei chael ar lesiant unigolyn ac yn gallu cynorthwyo'r rhai sy'n cael eu hatgyfeirio drwy ddefnyddio dull grymusol sy'n canolbwyntio ar adferiad.
Mae'r swydd yn gyfyngedig i ymgeiswyr gwrywaidd ar y sail mai'r dyletswyddau yw darparu cymorth penodol i ddefnyddwyr gwasanaethau gwrywaidd sy'n ymwneud ag anghenion iechyd corfforol ac emosiynol. Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 08 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person