37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc/oedolion anabl? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer dirprwy reolwr tîm yn ein tîm Anableddau Plant a Phontio. Byddai'r dirprwy reolwr tîm yn ymuno â'r tîm rheoli sy'n cynnwys rheolwr tîm a dau uwch ymarferydd. Mae hon yn swydd newydd sy'n cynnig cyfle gwych i ddatblygu sgiliau a phrofiad rheoli mewn tîm arbenigol a chefnogol.
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n mynd drwy'r broses o bontio i fyd oedolion.
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy.
Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl hyd at 25 oed gan sicrhau bod ganddynt gysondeb o ran cymorth a phontio didrafferth i fyd oedolion.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle prin i roi cymorth rheoli i dîm sy'n rheoli achosion plant ac oedolion. Bydd gennych y profiad a'r hyder i ymgymryd â phrif dasgau'r rôl hon ynghyd â brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu a datblygu rhagor o sgiliau a gwybodaeth ar draws y rhychwant oedran yn ogystal â rheolwr.
Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig a thair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ynghyd â gwybodaeth am anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd a dealltwriaeth o hyn ynghyd â phrofiad o ddarparu goruchwyliaeth i weithwyr cymdeithasol.
Byddwch yn gweithio ar y cyd â'r rheolwr tîm a'r ddau uwch ymarferydd yn y tîm i ddarparu cymorth i weithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr gwaith cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd a chael cyfleoedd i ddatblygu/gwella sgiliau a gwybodaeth reoli i gynorthwyo eich cynnydd gyrfa a'ch uchelgeisiau eich hun.
Yn ddiweddar, mae'r awdurdod lleol wedi lansio'r dull arwyddion diogelwch a fydd yn sail i'n holl ymarfer gyda phlant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model ac ymarfer sy'n datblygu cryfder. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â'r dull ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n sail i'n gwaith gydag oedolion.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Goffennaf 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Goffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 30/31 Goffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person