37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at Mawrth 2028
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am arweinydd profiadol ac ysbrydoledig i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i'r Tîm Datblygu Cymunedol o fewn y Gwasanaeth Atal a Llesiant.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth allweddol, sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni strategaethau, cynlluniau gweithredu ac ymyriadau cymunedol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac yn gwella canlyniadau i'n trigolion. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl ganolog wrth symud agenda Atal a Llesiant y Cyngor ymlaen, gyda phwyslais cryf ar alluogi cymunedau iachach, mwy egnïol a gwydn ledled Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn arwain cydweithio yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac yn goruchwylio rheolaeth weithredol:
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Plant a Theuluoedd
Gwasanaeth Llesiant Oedolion a Gofalwyr Ifanc
Rhaglen Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn
Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae
Fel aelod o'r Tîm Rheoli Gwasanaethau Atal a Llesiant, byddwch yn cyfrannu at berfformiad, trawsnewid a chyflawni partneriaethau ar draws y gwasanaeth sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 04 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 06 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 18 - 20 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person