37 awr yr wythnos
O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Tîm, byddwch yn gweithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol sy'n cynnal tasgau penodol fel asesiadau, cynllunio gofal ac adolygu. Bydd y rôl yn cynnwys ymgymryd â gwaith uniongyrchol, cydnabod lle mae angen cyfraniad Gweithwyr Cymdeithasol a darparu cymorth i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person