37 awr yr wythnos
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gydag unigolion a'u gofalwyr. Credwn fod gan bawb gryfderau, a'n cenhadaeth yw cynorthwyo unigolion i gynnal eu hannibyniaeth fel y gallant fyw eu bywydau yn dda, credwn fod hyn yn dechrau ar y pwynt cyswllt cyntaf â'r adran. Mae ein “Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau” yn cefnogi dull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda rhwystrau a achosir gan salwch corfforol, iechyd meddwl, eiddilwch a heneiddio.
Rydym yn awyddus i benodi therapydd galwedigaethol amser llawn a fydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, sy'n cynnwys y gwaith cymdeithasol tymor byr, gweithwyr cymorth cymunedol a'r ymateb drws blaen mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gyda:
Brysbennu/sgrinio atgyfeiriadau sy'n dod i mewn,
Mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar atebion i hyrwyddo annibyniaeth,
Sicrhau bod ymatebion yn gymesur, yn canolbwyntio ar y person, ac yn cyd-fynd â chryfderau a galluoedd yr unigolyn,
Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau personol a chymunedol presennol.
Drwy ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth Therapi Galwedigaethol arbenigol bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i wneud y gorau o ddarpariaeth gofal a sicrhau bod lefel y cymorth a gomisiynir yn gymesur i anghenion yr unigolyn. Byddant yn cymryd cyfrifoldeb am eu llwyth gwaith eu hunain a'r Technegydd Therapi ac yn rhoi cymorth i'r tîm ehangach i hyrwyddo a gweithredu'r fethodoleg sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau.
Bydd deiliad y swydd yn dilyn y safonau proffesiynol ac ymarfer a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 12 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person