Cytundebau 30 awr a 25 awr ar gael
Mae ein llety arhosiad byr ac argyfwng yn wasanaethau rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu ac anghenion cysylltiedig fel Awtistiaeth, ymddygiad cymhleth, anableddau corfforol, dementia ac anghenion iechyd cymhleth
Bydd y rôl yn cynnwys:-
Gweithio'n hyblyg ar draws gwasanaethau arhosiad byr a llety brys lle mae angen blaenoriaethol yn ofynnol
Rhoi cymorth, gofal a chyngor hyblyg ac o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gryfderau, nodau ac anghenion amrywiol unigolion a darparu hyn mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person sy'n hyrwyddo ymgysylltiad gweithredol a chynllunio a chymorth unigol
Cyfrannu at egwyddorion a gweithdrefnau cymorth ymddygiad cadarnhaol a'u gweithredu, gan weithio gydag unigolion ag anghenion cymhleth.Rhoi cymorth i bob agwedd ar fywyd bob dydd ac addysgu sgiliau a allai gynnwys; gweithgareddau cymunedol, tasgau yn y cartref a domestig, siopa a pharatoi bwyd, hylendid personol, gwisg ac ymddangosiad personol.Cymryd rhan weithredol a chyfrannu at ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person gan gynnwys asesiadau risg cadarnhaol a chanllawiau /arweiniad cysylltiedig lle y bo angen.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr 2024
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr