Dirprwy Reolwr Preswyl - Darpariaeth Argyfwng ac Asesu

Dirprwy Reolwr Preswyl - Darpariaeth Argyfwng ac Asesu

02/04/2025

Caiff gofynion y swydd eu nodi isod. Lle y bo'n berthnasol, mae'r sgiliau, y cymwysterau a'r aelodaeth o gyrff proffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon wedi cael eu cynnwys hefyd.

Manylion y swydd

Manylion y swydd
Cyflog
£42,708 - £44,711 y flwyddyn
Categori'r swydd/math o swydd
Gofal Cymdeithasol - Oedolion/Plant
Dyddiad cyhoeddi
13/03/2025
Cyfeirnod y swydd
17295

Disgrifiad swydd

Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos

Dirprwy Reolwr Preswyl Darpariaeth Argyfwng ac Asesu
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Golygfa'r Dolydd yn gartref pwrpasol sy'n darparu asesu, gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 6 ac 17 oed. Gellir gosod hyd at saith o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg: pedwar yn yr uned asesu a thri yn yr uned argyfwng.
Mae Golygfa'r Dolydd yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl.  Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau cydnerthedd a hunanofal. 
Mae gan Golygfa'r Dolydd Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle sy'n cydlynu'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
A chithau'n Ddirprwy Reolwr Preswyl bydd angen i chi fod wedi cymhwyso i'r lefel ofynnol mewn arwain a rheoli fel y rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.  Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd a meddu ar brofiad o fodloni gofynion rheoliadau prosesau RISCA ac AGC mewn perthynas ag arolygu.
Mae angen dirprwy reolwr ymrwymedig arnom a fydd yn cynorthwyo'r rheolwr i arwain y cartref a'r tîm staff er mwyn datblygu'r gwasanaeth hwn ymhellach a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r swydd yn gofyn am unigolyn angerddol ac ymroddedig a all gynorthwyo'r rheolwr i symud y gwasanaeth yn ei flaen gan geisio gwelliant parhaus. 
A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant ac Oedolion Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Mae Cysgu i Mewn, Gweithio ar y Penwythnos, Ymateb Brys yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 02 Ebrill 2025

Dyddiad llunio rhestr fer: 03 Ebrill 2025

Dyddiad Cyfweld: 10 Ebrill 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person