37 awr yr wythnos
Oherwydd dyrchafiad mewnol ac ehangu parhaus, mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwylio amser llawn yn y Tîm Gofal gan Berthynas a Sefydlogrwydd.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ein nod yw sicrhau bod Gofalwyr sy'n Berthnasau yn cael eu cydnabod fel gweithwyr proffesiynol a'u bod yn cael eu cynnwys yn weithredol pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am blant yn eu gofal. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod Gofalwyr sy'n Berthnasau yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i alluogi'r plant a phobl ifanc yn eu gofal i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Rydym yn cyflawni hyn drwy gydgynhyrchu ein gwasanaeth gyda Gofalwyr sy'n Berthnasau er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn adlewyrchu eu hanghenion. Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol sy'n rhannu ein hangerdd am Ofal gan Berthynas.
Yn eich rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, byddwch yn gallu rhoi tystiolaeth o'r gallu i gwblhau asesiadau Personau Cysylltiedig a Gwarcheidiaeth Arbennig cynhwysfawr, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ofalwyr sy'n berthnasau a rhoi cymorth drwy oruchwyliaeth fyfyriol, adolygiadau blynyddol a chyfleoedd dysgu a datblygu.
Er mwyn gallu cyflawni hyn, bydd gennych hanes o allu gweithio ar y cyd nid yn unig â Gofalwyr sy'n Berthnasau, Plant a Theuluoedd, ond hefyd gyda'r holl weithwyr proffesiynol eraill sy'n rhan o'r tîm o amgylch y plentyn. Byddwch yn drefnus, yn gallu blaenoriaethu eich gwaith i fodloni amserlenni ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Rydym yn eistedd ochr yn ochr â'r Tîm Maethu Cyffredinol, felly bydd eich dyletswyddau hefyd yn cynnwys Dyletswydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau Recriwtio a Chadw, eistedd ar y Panel Maethu a Chyfarfodydd Tîm a Diwrnodau Datblygu.
I'ch cynorthwyo yn eich rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, nid yn unig y byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar, sefydledig, byddwch hefyd yn derbyn sefydlu cadarn, goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd, cyfleoedd hyfforddi rhagorol ac amrywiol, yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol i ddatblygu eich sgiliau. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu gwerth chweil lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n canolbwyntio ar weithio gyda'n gofalwyr sy'n berthnasau, plant a'u teuluoedd o safbwynt cryfderau. Rydym yn awdurdod lleol Arwyddion Diogelwch ac er bod profiad presennol weithio yn y modd hwn yn ddymunol, byddwn yn darparu cyfleoedd hyfforddi.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Fe'i lleolir mewn safle dymunol rhwng Abertawe a Chaerdydd ac mae'n ymestyn o'r cymoedd hardd i'n harfordir hyfryd – gyda mynediad hawdd i ganolfannau trefol yn ogystal â lleoliadau gwledig ac arfordirol deniadol. Gydag ysgolion ardderchog, tai fforddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus ardderchog, mae rhywbeth at ddant pawb yma, a digon i'w wneud drwy gydol y flwyddyn i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch ag: Amanda Etherington (Amanda.Etherington@bridgend.gov.uk) – Rheolwr Tîm Gofal gan Berthynas a Sefydlogrwydd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 10 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person