37 awr yr wythnos
A ydych yn Therapydd Galwedigaethol arloesol a blaengar gydag amrywiaeth eang o brofiad ymarfer i'w rannu, ac yn chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa?
Rydym yn ceisio recriwtio Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig iawn i ymuno â'r tîm arweinyddiaeth yn y Tîm Adnoddau Cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gyfeiriad strategol therapi galwedigaethol yn yr awdurdod lleol, mae hyn yn cynnwys y gwasanaethau cymunedol integredig, tai, gwasanaethau dementia arbenigol, CEF y Parc a Gwasanaethau Plant. Bydd deiliad y swydd yn gwerthuso blaenoriaethau gwasanaeth ac yn sicrhau bod ymarfer therapiwtig yn arloesol ac yn seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni'r blaenoriaethau hynny.
Bydd gan y Rheolwr Asesu Arbenigol Integredig gyfrifoldeb penodol am y Tîm Asesu Arbenigol, sy'n cynnwys y timau Therapi Galwedigaethol Synhwyraidd a Chymunedol. Sicrhau bod y timau hyn yn darparu ymyriadau cymesur, cynnar, ac adsefydu er mwyn hwyluso'r canlyniadau gorau i unigolion.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Uwch gydag Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hwn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 02 Ebrill 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 03 Ebrill 202
Dyddiad Cyfweld: 15 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person