37 awr yr wythnos
Mae'r awdurdod lleol yn ymroddedig i ddefnyddio'r sail dystiolaeth gynyddol ar gyfer datblygu gwasanaethau arloesol sy'n gweithio'n effeithiol gyda theuluoedd sy'n dioddef sawl symptom o allgáu cymdeithasol ac sydd wedyn yn dibynnu'n sylweddol ar amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus.Yn y cyd-destun hwn, mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain ar ddatblygu gwasanaeth cyswllt newydd. Bydd y rheolwr cyswllt yn arwain tîm o weithwyr cyswllt sy'n darparu ac yn cefnogi teuluoedd i gael amser teuluol o ansawdd uchel gyda'i gilydd. Rydym yn chwilio am reolwr i ymuno â'r gwasanaeth a chanddo ddull ‘gallu gwneud’ ac sy'n ymrwymedig i ddarparu a datblygu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.Bydd y rheolwr yn gweithio mewn partneriaeth â'r timau rheoli achosion gyda chyfrifoldeb rheoli am gydlynu'r Gwasanaeth Cyswllt a' weithrediad, gan sicrhau bod plant a theuluoedd a gynorthwyir gan yr awdurdod lleol yn cael sesiynau cyswllt diogel ac effeithiol yn unol â pholisïau, arfer gorau, deddfwriaeth, gweithdrefnau a systemau mewnol presennol.Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloesi a datblygu eich sgiliau rheoli mewn gwaith gyda phlant a theuluoedd. Os ydych yn cael eich denu gan y gwaith hwn ac yn gallu bodloni gofynion manyleb y person edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 18 Medi 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 20 Medi 2024 Dyddiad Cyfweld: 30 Medi 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person