37 awr yr wythnos
Arwain Cynnydd, Posibilrwydd a Newid Cadarnhaol.
A ydych yn arweinydd gwaith cymdeithasol profiadol sy'n ymrwymedig i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a chefnogi oedolion ag anghenion cymhleth i gyflawni'r canlyniadau sydd bwysicaf iddynt?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am Reolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol a all gyfuno arweinyddiaeth ymarfer gref ag ymrwymiad i arloesedd a datblygu gwasanaethau i arwain ein Tîm Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth.
Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfuno arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol â datblygu gwasanaethau. Ochr yn ochr ag arwain tîm medrus, byddwch yn defnyddio mewnwelediad o ymarfer i ddylanwadu ar gyfleoedd llety, gofal a chymorth yn y dyfodol i oedolion ag anghenion cymhleth ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n lleiaf cyfyngol, yn hybu ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn helpu i lunio gwasanaethau sy'n cefnogi annibyniaeth, dewis a rheolaeth.
Y Rôl
A chithau'n Rheolwr Tîm, byddwch yn arwain tîm ymroddedig sy'n cefnogi oedolion ag anghenion cymhleth, gan greu diwylliant o chwilfrydedd proffesiynol, ymarfer myfyriol a gwelliant parhaus.
Byddwch yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a chymryd risgiau cadarnhaol, gan sicrhau bod pobl yn parhau i fod yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau ac yn cael eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau sydd bwysicaf iddynt.
Mae gan y tîm rôl unigryw ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Drwy asesiadau, adolygiadau a gweithgarwch sicrhau ansawdd, mae'n darparu mewnwelediad gwerthfawr i anghenion llety, gofal a chymorth ar gyfer y presennol a'r dyfodol. Byddwch yn defnyddio'r dysgu hwn i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau a blaenoriaethau comisiynu yn y dyfodol.
Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gofal cymdeithasol, iechyd, tai a'r sector annibynnol, byddwch yn meithrin partneriaethau cryf sy'n cefnogi atebion arloesol ac effeithiol i bobl ag anghenion cymhleth.
Byddwch hefyd yn darparu arweinyddiaeth mewn perthynas â Gofal Iechyd Parhaus, sicrhau ansawdd, perfformiad a gwella gwasanaethau.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
 phrofiad sylweddol o weithio gydag oedolion ag anghenion cymhleth.
 phrofiad o arwain a chefnogi timau.
Yn ymrwymedig i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar y person.
Yn broffesiynol chwilfrydig ac yn hyderus wrth arwain drwy gymhlethdod a newid.
 phrofiad o weithio mewn partneriaeth effeithiol.
Yn meddu ar y creadigrwydd a'r weledigaeth i helpu i lunio cyfleoedd llety, gofal a chymorth yn y dyfodol.
Yn creu diwylliant ymarfer cadarnhaol sy'n cadw pobl yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau.
Pam ymuno â Phen-y-bont ar Ogwr?
Yn ogystal â'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, rydym yn cynnig:
Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid lle mae anghenion y gwasanaeth yn caniatáu.
Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol.
Goruchwyliaeth reolaidd a chymorth proffesiynol.
Cyfleoedd dysgu a datblygu.
Ymrwymiad cryf i lesiant cyflogeion.
Aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Hawl i wyliau blynyddol hael.
Y Cyfle
Mae hwn yn gyfle i arwain tîm sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth helpu i lunio dyfodol llety, gofal a chymorth i oedolion ag anghenion cymhleth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Os ydych yn chwilio am rôl sy'n cyfuno arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol, datblygu gwasanaethau a dylanwad strategol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lisa Morris, Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn lisa.morris@bridgend.gov.uk.
Yn Barod i Arwain Newid Cadarnhaol?
Ymunwch â ni a helpu i lunio diwylliant o gynnydd, posibilrwydd a newid cadarnhaol i oedolion ag anghenion cymhleth ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 21 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 2 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person