Prentis Gofal Cymdeithasol
37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 18 mis.
Rydym yn chwilio am unigolion gofalgar, parchus a dibynadwy sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae gennym raglenni wedi'u teilwra ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol, darpar weithwyr gofal cymdeithasol, a'r rhai sy'n chwilio am newid gyrfa. Mae hwn yn gyfle cyffrous i brofi a gweithio mewn lleoliadau gwahanol ar draws ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a chymorth, fel prentis gofal cymdeithasol.
Cymerwch y cam cyntaf i ddyfodol llwyddiannus a boddhaol yn cefnogi pobl yn eich cymuned. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth broffesiynol i wneud cynnydd yn eich llwybr gyrfa o ddewis drwy ofal uniongyrchol gan gynnwys rheoli tîm, uwch arweinyddiaeth, dysgu a datblygu, a gwaith cymdeithasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac mae'r rhain yn cynnwys; gofal cartref, cartrefi gofal preswyl i bobl hŷn, llety byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu / cyflyrau iechyd meddwl a chyfleoedd gwasanaeth dydd.
Byddwch yn cael hyfforddiant yn y swydd, profiad a chymorth i gyflawni cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd y Dyfarniad galwedigaethol Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eich helpu i ddatblygu eich gallu i gefnogi'n ymarferol anghenion gofal a chymorth oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau ac i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Mae cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus yn galluogi unigolion i weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol cymwys mewn rolau Lefel 2 ar draws y sector Gofal Cymdeithasol. Bydd hefyd yn eich galluogi i wneud cais am gofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cartref / preswyl i oedolion.
Oherwydd amodau cyllido, ni allwn ystyried y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster galwedigaethol ar lefel gyfwerth neu uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gradd. Gallwn dderbyn y rhai sydd wedi dilyn cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol TGAU/Safon Uwch.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Irene Davies, Cynghorydd Dysgu a Datblygu yn irene.davies@bridgend.gov.uk
Asesu a chyfweliad Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad mewn un o leoliadau'r Cyngor. Bydd y broses recriwtio yn cynnwys amrywiaeth o asesiadau sydd wedi'u cynllunio i asesu priodoleddau a chymhwysedd ymgeiswyr yn erbyn gofynion y swydd. Mae hyn yn debygol o gynnwys cyfweliad sy'n seiliedig ar gymhwysedd.Bydd y cyfweliad yn gyfle i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn erbyn y meini prawf a nodwyd ym Manyleb y Person.
Addasiadau RhesymolRydym yn ymrwymedig i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i'r broses ddethol er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr ag anghenion ychwanegol, cyflyrau neu ofynion yn cael yr un cyfle â'r ymgeiswyr eraill i ddangos eu gallu.
Oherwydd amodau ariannu, ni allwn ystyried y rhai sydd eisoes wedi ennill cymhwyster galwedigaethol ar lefel gyfwerth neu uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lefel gradd yn yr un maes pwnc. Gallwn dderbyn y rhai sydd wedi ymgymryd â chyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar lefel TGAU/Lefel A.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, a Gweithio ar Benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 06 Awst 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person