37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf oherwydd Cyflenwi Mamolaeth.
Mae angen Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol i ymuno â'r timau ardal. Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd a byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau o ansawdd.
Bydd yn ofynnol i chi ymgymryd â gwaith achos, asesiadau gofal a chymorth a darparu gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd disgwyl i chi hefyd gynorthwyo cydweithwyr gydag achosion cymhleth ac ymgymryd â thasgau penodol sy'n ymwneud ag achosion. Bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu da, dull hyblyg o ran eich gwaith ac ymrwymiad i weithio mewn tîm.
Mae canlyniad boddhaol gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac am gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Kamal Ray, Rheolwr y Tîm, ar 01656 642303 neu anfonwch e-bost at kamal.ray@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 21 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 29 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person