18.5 awr yr wythnos
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal asesiadau o ansawdd uchel ar gyfer ymyriadau statudol ac anstatudol gan ddefnyddio'r Dull Asesu Asedau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r tîm i greu a chyflwyno ymyriadau effeithiol seiliedig ar ymarfer wedi'u cynllunio i atal pobl ifanc a nodwyd eu bod mewn perygl o droseddu, aildroseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed iddyn nhw eu hunain ac eraill. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o'r uwch dîm rheoli gan sicrhau bod asesu a chynllunio risg yn asesu'r risg o aildroseddu, risg o niwed i'w hunain (natur agored i niwed) yn ogystal â risg o niwed difrifol i eraill ac yn mynd i'r afael â hyn. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r Rheolwyr Gweithredol wrth barhau i ddatblygu gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid o ansawdd uchel. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion plant a'u teuluoedd ar draws pob maes Cyfiawnder Ieuenctid, gan gynnwys cymryd rhan mewn rota llysoedd, a gweithredu fel oedolyn priodol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol, gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, cysylltwch â: Christa Bonham-Griffiths drwy e-bost: christa.bonham-griffiths@bridgend.gov.uk.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Medi 2024 Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person