32.5 awr yr wythnos
Amser Tymor
Contract cyfnod penodol hyd at 30 Tachwedd 2026 gan weithio tuag at gymhwyster Lefel 3.
Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymedig ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bryn Castell i gynorthwyo disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eraill fel Prentis Swyddog Cymorth Arbennig mewn amgylchedd ysgol arbennig.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu ac ymuno â'n cymuned ysgol arbennig feithringar a chynhwysol ac adeiladu gyrfa werth chweil ym maes addysg wrth ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ennill profiad, hyfforddiant a sgiliau ymarferol wrth weithio tuag at gymhwyster Lefel 3 mewn Prentisiaeth Cymorth Arbenigol ar gyfer Ysgolion Addysgu a Dysgu (SSTLS), wrth weithio gyda disgyblion ag ADY rhwng 7 a 19 oed yn Ysgol Bryn Castell. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:
Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan gynnwys gostyngiadau gan brif fanwerthwyr.
Hamdden â Chymhorthdal: Mae pob cyflogai'n gymwys i brynu Bridgecard ar gyfraddau gostyngol sy'n cynnig mynediad am ddisgownt i ganolfannau hamdden y cyngor yn y fwrdeistref.
Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.
Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Ni ystyrir ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster, ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys lefel gradd yn yr un maes pwnc. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Dyddiad Cau: 25 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person