37 awr yr wythnos
2 swydd ar gael
A chithau'n weithiwr cymdeithasol yn y tîm Anabledd Dysgu Cymunedol, byddwch yn darparu ymateb galluogol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau i oedolion y mae materion anabledd, eiddilwch, anableddau dysgu, iechyd meddwl a dementia yn effeithio arnynt, sy'n gofyn am ymateb gwaith cymdeithasol amserol. Gan weithio gyda dull amlddisgyblaethol, eich rôl fydd darparu gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol, gan gynnwys asesu anghenion, a lle y bo'n gymwys cynlluniau gofal a chymorth, a lle y bo'n briodol cynlluniau gofal a thriniaeth a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i bobl. Lle y bo'n ymarferol, byddwch yn canolbwyntio ar atal a hunanreoli, gan alluogi unigolion i gynnal annibyniaeth drwy gyfuniad o asesu, gofal a chymorth ac ymyriadau ymarferol eraill.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 20 Awst 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 21 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 27 Awst 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person