37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol i gryfhau capasiti ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni canlyniadau rhagorol i blant, pobl ifanc, ac oedolion drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Rydym yn ceisio recriwtio Rheolwr Grŵp llawn ysbrydoliaeth a chymhelliant i roi arweinyddiaeth strategol a rheolaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau Darparwyr yr awdurdod lleol sy'n cynnwys maethu mewnol, darpariaeth breswyl, llety â chymorth, trefniadau gwarchodaeth arbennig a gwasanaethau therapiwtig yn ogystal â lleoliadau wedi'u comisiynu.
Fel rhan o'n rhaglen ailfodelu ym Mhen-y-bont â phrofiad o fod mewn gofal wedi ehangu'n sylweddol ar ôl creu model “dim drws anghywir. Fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, byddwch yn cyfrannu at flaenoriaethau'r Gyfarwyddiaeth a pharhau i ddatblygu modelau newydd o ddarparu gwasanaethau er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Byddwch yn cydweithio ac yn datblygu cysylltiadau â phartneriaethau a chyfranogi mewn gwaith amlddisgyblaethol gydag awdurdodau lleol eraill, cyrff rhanbarthol a chenedlaethol a sefydliadau preifat/cyhoeddus/trydydd sector eraill.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg cefnogol lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, cael mynediad at gyfleoedd swyddi a datblygu gyrfa gadarnhaol a gwerth chweil.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Medi 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 26 Medi 2024 Dyddiad Cyfweld: 10 Medi 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person