37 awr yr wythnos
Secondiad - contract 6 mis i ddechrau
Mae cyfle cyffrous wedi'i greu ar gyfer swydd Gweithiwr Cymdeithasol y Gwasanaeth Allgymorth Tai ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd hon yn swydd a ariennir gan CTM/SMAF i ddechrau ar sail secondiad chwe mis a bydd yn cael ei hysbysebu drwy Weithwyr Cymdeithasol presennol yn ardal CBSP.
Bydd y rôl, er ei bod yn swydd a ariennir gan CTM, yn seiliedig ar ddeiliad y swydd wedi'i leoli a'i gysylltu â Thîm Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau Pen-y-bont ar Ogwr, gan weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau statudol ac anstatudol lleol ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.
Cymryd rhan mewn gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu effeithiol a chydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, statudol a gwirfoddol wrth ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion;
Gweithio mewn cydgynhyrchu â phlant, pobl ifanc, oedolion, eu gofalwyr a phobl eraill arwyddocaol wrth gynnal asesiadau a chynllunio;
Cwblhau cofnodion ysgrifenedig, adroddiadau ac asesiadau i safon dda fel sy'n ofynnol yn unol â pholisïau ac arferion Gwasanaethau Plant ac Oedolion;
Sicrhau bod rhywun yn gwrando ar farn plant a phobl ifanc fel rhan o unrhyw broses a gynhelir neu:
Cydnabod bod oedolion â galluedd yn gallu barnu beth sydd er eu lles pennaf a beth fydd yn diwallu eu hanghenion llesiant.
Lle y bo'n briodol, mynd ati a chynnal asesiadau galluedd meddyliol i fodloni gofynion Cod Ymarfer MCA; mae hefyd yn ofynnol i weithwyr cymdeithasol o dan y ddyletswydd statudol hon sicrhau asesiad priodol a gwrthrychol wrth ganfod lles pennaf ar bob achlysur perthnasol;
Cynnal y safonau proffesiynol uchaf wrth gyflawni'r swydd hon a chadarnhau Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru; a'i hyrwyddo i eraill o fewn y maes cyfrifoldeb;
Bodloni gofynion fframwaith a safonau Sicrhau Ansawdd Gwasanaeth;
Cymryd cyfrifoldeb personol am wybod y diweddaraf am ddeddfwriaeth, canfyddiadau ymchwil a gwybodaeth am ymarfer, gan gynnwys mynychu hyfforddiant priodol;
Gwerthfawrogi, cydnabod a pharchu amrywiaeth, arbenigedd a phrofiad unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau a chymunedau ac wrth wneud hynny eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a mynegi'r hyn sy'n bwysig iddynt;
Herio barn a phenderfyniadau eraill yn briodol lle ceir tystiolaeth nad yw'r canlyniadau llesiant yn cael eu cyflawni;
Cymryd rhan mewn sgwrs strwythuredig â'r rhai sy'n gwneud ymholiad cychwynnol am y gwasanaeth a gwerthuso unrhyw wybodaeth a roddir:
Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau;
Rhoi gwybodaeth, cyngor/a neu gyfeirio i wasanaethau eraill;
Sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth yn cael ei darparu.
Cymhwyso trothwyon i wneud dyfarniad ynghylch a yw atgyfeiriad yn briodol.
Asesu brys yr ymateb sy'n ofynnol i atgyfeiriad.
Asesu lefel gychwynnol blaenoriaeth atgyfeiriad.
Gwneud ymholiadau cychwynnol, e.e. asiantaethau eraill, cysylltiadau.
Cofnodi gwybodaeth am atgyfeirio yn gywir ac yn llawn yn unol â gweithdrefnau adrannol.
Sicrhau bod gwybodaeth am atgyfeirio yn cael ei throsglwyddo'n brydlon yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni adrannol.
Diogelu llesiant plentyn neu oedolion sydd mewn perygl o niwed uniongyrchol.
Cynnal asesiadau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gyda phlant, oedolion a'u teuluoedd/gofalwyr, nodi canlyniadau a lle y bo'n ofynnol datblygu cynlluniau gofal a chymorth, sy'n cael eu monitro a'u hadolygu.
Sicrhau bod risgiau i blant ac oedolion yn cael eu hasesu a'u cydbwyso mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydgynhyrchu, annibyniaeth a dewis.
Sicrhau bod cryfderau yn amgylchiadau'r person yn cael eu nodi a'u hyrwyddo;
Cyfrifoldeb am gynllunio a gweithio o fewn yr adnoddau ariannol sydd wedi'u sicrhau i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn eu maes atebolrwydd;
Sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol pobl ynysig ac agored i niwed yn cael ei hyrwyddo; yn enwedig rhwydweithio gydag adnoddau cymunedol a theuluol;
Gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill gan fabwysiadu dull amlddisgyblaethol lle y bo'n briodol.
Sicrhau bod cofnodion a gedwir yn electronig, gan gynnwys cofnodion achosion, asesiadau, cynlluniau gofal a chymorth ac adolygiadau'n cael eu cwblhau a/neu eu diweddaru yn unol â pholisi a gweithdrefnau adrannol
CYFRIFOLDEBAU PENODOL
Cael mynediad at Wasanaethau Cymdeithasol
Cymryd rhan mewn sgwrs strwythuredig â'r rhai sy'n gwneud ymholiad cychwynnol am y gwasanaeth a gwerthuso unrhyw wybodaeth a roddir.
Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau.
Rhoi gwybodaeth, cyngor/a neu gyfeirio i wasanaethau eraill.
Asesu lefel gychwynnol blaenoriaeth atgyfeiriad
Asesu
Gwerthuso natur anghenion posibl yn seiliedig ar wybodaeth atgyfeirio ac unrhyw gofnodion blaenorol.
Cynnal asesiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.
Nodi a rheoli risg.
Gwneud ymholiadau, e.e. cyswllt rhyngasiantaethol.
Gwneud trefniadau ar gyfer apwyntiad a/neu ymweliad ar gyfer asesu.
Cymryd rhan mewn gwaith uniongyrchol gyda phlant, oedolion a gofalwr/gofalwyr er mwyn cynnal asesiad cymesur;
Gweithio gyda phlant, oedolion a gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol i geisio gwella eu galluoedd datrys problemau mewn ffordd sy'n cefnogi'r annibyniaeth a'r dewis mwyaf;
Ystyried gyda phlant/pobl ifanc ac oedolion, unigolion a gofalwyr, opsiynau i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn y ffordd orau a chynorthwyo wrth wneud penderfyniadau gwybodus;
Ceisio sicrhau cymaint o adnoddau ariannol a ffisegol â phosibl sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau o bob ffynhonnell bosibl;
Coladu canfyddiadau o'r asesiad a chwblhau dogfennaeth asesu yn unol â chanllawiau statudol, deddfwriaeth a gweithdrefnau ac amserlenni adrannol;
Paratoi adroddiadau llys ac adroddiadau arbenigol eraill yn y safon a'r fformat gofynnol;
Sicrhau bod cofnodi ffeiliau achos yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau a pholisi adrannol;
Sicrhau bod cofnodion a gedwir yn electronig yn cael eu cwblhau a/neu eu diweddaru yn unol â pholisi a gweithdrefnau adrannol;
Cynnull a/neu fynychu cyfarfodydd/cyswllt rhyngasiantaethol, e.e. Amddiffyn Plant neu Oedolion
Cynadleddau, Adolygiadau CLA a chyfarfodydd strategaeth
Cyd-drafod, trefnu a chadarnhau adnoddau gyda darparwyr gwasanaethau er mwyn cyflawni canlyniadau.
Cynllunio a Rheoli Gofal a Chymorth
Cynllunio a rheoli gofal a chymorth yn unol â deddfwriaeth bresennol.
Hyrwyddo grymuso plant, oedolion a gofalwr/gofalwyr drwy gytuno ar ganlyniadau a ddymunir sy'n hyrwyddo annibyniaeth.
Cytuno ar amrywiaeth o atebion i fodloni canlyniadau a nodwyd gyda phlant, oedolion a gofalwr/gofalwyr;
Cael awdurdodiad rheoli priodol cyn dechrau cynlluniau gofal a chymorth;
Cyd-drafod, cydgysylltu a chadarnhau adnoddau gyda darparwyr gwasanaethau er mwyn cyflawni canlyniadau;
Cofnodi a lledaenu gofal a chymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth a gweithdrefnau adrannol;
Cwblhau dogfennaeth gomisiynu/contractio yn unol â pholisi ac amserlenni adrannol
Cynnull a/neu fynychu cyfarfodydd/cyswllt rhyngasiantaethol, e.e. Plentyn neu Oedolyn
Cynadleddau Amddiffyn, Adolygiadau CLA, cyfarfodydd Lles Pennaf a chyfarfodydd cynllunio.
Nodi'r risg o gamdriniaeth, methiant i amddiffyn, niwed i'w hun neu eraill ac asesu'r angen am ymyrraeth mewn sefyllfaoedd o'r fath.
Cymryd rhan mewn prosesau statudol i hyrwyddo a diogelu llesiant plant a/neu oedolion agored i niwed gan gynnwys ymchwilio lle y bo hynny'n briodol.
Cyfrannu gwybodaeth ac arbenigedd gweithredol at y broses o adolygu a datblygu gwasanaeth yn ogystal â datblygu strategaethau gweithredu lleol ar gyfer deddfwriaeth, canllawiau a chyngor newydd.
Monitro ac Adolygu Darpariaeth
Trefnu a chydlynu adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun gofal a thriniaeth.
Ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant/oedolion/teuluoedd/gofalwyr wrth adolygu'r cynllun gofal a chymorth neu'r cynllun gofal a thriniaeth a chytuno ar newidiadau lle bo angen.
Cyd-drafod a chytuno ar newidiadau i gynllun gyda darparwyr ac asiantaethau eraill dan sylw.
Cwblhau dogfennaeth adolygu yn unol â deddfwriaeth a pholisi ac amserlenni adrannol.
Sicrhau bod plant, oedolion a theuluoedd yn ymwybodol o'r gweithdrefnau cwyno a'r gwasanaethau eiriolaeth.
Rheoli Llwyth Gwaith
Gweinyddu amserol ar gyfer pob agwedd ar lwyth achosion
Paratoi a chymryd rhan mewn goruchwyliaeth broffesiynol gyda'r rheolwr llinell.
Defnyddio goruchwyliaeth i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer a'ch perfformiad eich hun.
Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr;
Cwblhau dogfennaeth briodol, e.e. agenda/cofnodion goruchwylio
A chithau'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig, mae'n ofynnol i'r ymarferydd unigol ddangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus a fydd yn bodloni gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru.
Hyrwyddo rhannu ymarfer da a chyson, a gwelliant parhaus gwasanaethau i blant, pobl ifanc, oedolion a'u teuluoedd
Ymgymryd â dyfarniadau ôl-gymhwyso a defnyddio, yn ymarferol, y sgiliau a enillwyd gan gynnwys mentora Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ond heb fod yn gyfyngedig i hyn.
Sicrhau nad yw'r gwasanaethau a ddarperir yn gwahaniaethu o ran hil, rhyw, oedran, statws priodasol, rhywioldeb, anabledd, crefydd neu genedligrwydd
Un swydd gwaith cymdeithasol ar gyfer y gwasanaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn rhan o'r Tîm HOS Ehangach, gan weithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol HOS ardal Cwm Taf.
Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn darparu'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn.
Darpariaeth gwasanaeth allgymorth i unigolion ag anghenion cymhleth
Cyngor a gwybodaeth
Cynllunio Gofal
Asesiad Risg
Cyngor ac ymyriadau ar leihau niwed
Cyngor ar yfed mwy diogel
Cyfweld Ysgogiadol
Gofal Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymorth Gofalwyr
Asesiad gofalwyr (Mesur Gofalwyr 2010)
Mynediad at Ailsefydlu Cleifion mewn Cyfleusterau Preswyl
Llys Gwarchod
Deddf Iechyd Meddwl
Clinigau cyswllt a galw heibio
Presenoldeb mewn cyfarfodydd MARAC a MAPPA
Cysylltu â Thimau Cymorth Arbenigol
Llwyth achos uniongyrchol gan weithio gydag unigolion ag anghenion cymhleth
Bydd cydweithio rhwng asiantaethau Tai, Iechyd Meddwl, Iechyd Corfforol a Chamddefnyddio Sylweddau yn helpu i reoli materion sy'n cyd-ddigwydd.
Cynorthwyo myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ar leoliadau
Gweithio gydag unigolion sy'n cyflwyno gyda chyd-ddibyniaeth a chydafiachedd.
Rhaid i'r Darparwyr Gwasanaethau sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr:
Yn cymryd rhan wrth ddatblygu ac adolygu eu cynllun gofal a chymorth unigol a chael eu canlyniadau personol wedi'u hymgorffori yn y cynllun hwn.
Bod ganddynt fynediad hawdd at wybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael yn lleol i'r defnyddiwr gwasanaethau.
Bod ganddynt fynediad hawdd at wybodaeth am opsiynau triniaeth sydd ar gael.
Derbyn gwybodaeth am sut i wneud sylwadau, cwynion a chanmoliaeth am y gwasanaeth(au) y maent yn eu derbyn a'u hawl i gael mynediad at wybodaeth.
SGILIAU/CYMWYSEDDAU CRAIDD STAFF
Bydd y darparwr gwasanaethau yn sicrhau bod staff/gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaethau yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a'u cymhwyso'n briodol ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud, yn unol â'r canllawiau cenedlaethol sy'n bodoli.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant.
Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau:17 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer 22 Medi 2025:
Dyddiad y Cyfweliad: 03 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person