Sut olwg sydd ar yrfa foddhaus ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion?Rydym wedi ymuno â Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr unwaith eto i gynnig rhaglen am ddim dros bythefnos sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i archwilio gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion.Os ydych chi'n berson tosturiol a meddylgar sydd â diddordeb mewn gyrfa foddhaus yn helpu pobl yn eich cymuned, gallai Llwybrau at Ofal fod y cwrs i chiDros bythefnos, byddwch yn derbyn hyfforddiant achrededig am ddim a allai fod yn fanteisiol i chi mewn swydd yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n gweithio yng Ngwasanaethau Gofal i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr ac yn derbyn cymorth ganddynt, yn cymryd rhan mewn gweithdai addysgiadol ac yn cael cipolwg gwirioneddol ar yr hyn y byddai gyrfa mewn gofal yn ei gynnwys.Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer pobl sydd ag ychydig neu ddim profiad proffesiynol mewn Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa. Efallai bod gennych brofiad eisoes o ofalu am aelod o'r teulu neu yn syml bod gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i'ch cymuned.Mae hwn yn gyfle unigryw i gael dealltwriaeth o'r gwahanol rolau sydd ar gael ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion.Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys?
Hyfforddiant Dementia achrededig AM DDIM, gan gynnwys profiad realiti rhithwir arloesolHyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys achrededig AM DDIMHyfforddiant Sgiliau Meddyginiaeth achrededig AM DDIMHyfforddiant Cyflwyniad i Ofal achrededig AM DDIMHyfforddiant Diogelu achrededig AM DDIMProfiad o gyfweliad gyda rheolwyr gwasanaeth a chymorth gyda cheisiadauCyfleoedd i gwrdd a sgwrsio â phobl sydd eisoes yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol i OedolionCymorth a chyngor llesCyfleoedd i gwrdd â rhai o'r bobl anhygoel a gefnogir gan ein gwasanaethau
Pryd mae’n cael ei chynnal?Mae ein rhaglen Llwybrau at Ofal nesaf yn rhedeg o ddydd Llun 5 Hydref tan ddydd Gwener 16 Hydref 2026, rhwng 9.30am a 3pm.Bydd angen i chi fod ar gael drwy gydol y rhaglen.Sut ydw i'n cael rhagor o wybodaeth a chofrestru?Cysylltwch ag aelod o dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i drafod y cwrs yn fanylach a chofrestru.I fynychu'r cwrs, rhaid i chi fod yn gymwys i gofrestru gyda Gwasanaethau Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. E-bost:employability@bridgend.gov.uk Ffôn: 01656 815317