37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr a bod yn rhan o'n gwasanaethau preswyl i blant a'n cynorthwyo i ddiwallu anghenion y plant a'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi.
Y rôl yw darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel a fydd yn cynorthwyo'r rheolwr i weithredu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. Bydd y rôl yn cwmpasu dau wasanaeth gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei amser rhwng y ddau.
Y cyfrifoldebau yn y rôl fyddai darparu cymorth clercol o ddydd i ddydd, bydd hyn yn cynnwys cynnal a diweddaru ffeiliau electronig, gweinyddu'r system arian mân a pharatoi hawliadau ad-dalu misol (darperir hyfforddiant ar gyfer hyn). Bydd yn ofynnol i chi ymgymryd â dyletswyddau clercol cyffredinol, bydd hyn yn cynnwys ateb galwadau ffôn, llungopïo, gwirio ac archebu cyflenwadau a mynychu cyfarfodydd staff i gwblhau'r cofnodion, ymhlith gofynion clercol eraill.
Bydd gofynion i brosesu anfonebau ar gyfer eu talu ar system ar-lein CBSP, darperir hyfforddiant llawn ar gyfer ein holl systemau ar-lein. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fodloni rhai o'r priodoleddau ym manyleb y swydd. Safon dda o addysg sy'n cyfateb i FfCCh (NVQ) Lefel 2, neu'r gallu i ddangos cymhwysedd drwy brofiad. Mae profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa yn hanfodol, a hefyd profiad o weithredu arferion a gweithdrefnau gweinyddol.
Rydym yn croesawu pob ymgeisydd ac os hoffech gael rhagor o fanylion neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, ffoniwch Jayne Sealey ar 07977677109.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 10 Mawrth 2026
Dyddiad Cyfweliad: 20 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person