18.5 awr yr wythnos
Wythnos 1 Dydd Mercher Dydd Gwener Wythnos 2 Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu gofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym swydd Swyddog Cymorth Gwasanaeth Maethu Rhan-amser ar gael yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gan rannu swydd bydd yn ofynnol gweithio 18.5 awr yr wythnos a'r patrwm gwaith fydd:Wythnos Un – Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher (diwrnodau llawn)Wythnos Dau – Dydd Llun a dydd Mawrth (diwrnodau llawn)Byddech yn darparu amrywiaeth o weithgareddau cymorth busnes i'r timau gwasanaeth maethu a lleoli i'w alluogi i fodloni ei rwymedigaethau statudol a darparu gwasanaethau amserol ac effeithiol, gan ganolbwyntio ar ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant yn ein gofal.A chithau'n Swyddog Cymorth Gwasanaeth Maethu, byddwch yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr tîm yn y gwasanaeth yn ddyddiol, gan weithio'n agos gyda nhw i ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol yn unol â gofynion statudol yn ogystal â safonau a gweithdrefnau adrannol y cytunwyd arnynt.Byddwch yn hyderus ac yn rhagweithiol, heb ofni defnyddio'ch menter eich hun, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar brofiad ym maes arferion/gweithdrefnau gweinyddol a/neu ariannol.Mae angen profiad o gymryd cofnodion, neu barodrwydd i ddysgu'r sgìl hwn.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 25 Medi 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 27 Medi 2024 Dyddiad Cyfweld: 09 Hydref 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person