37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â ni i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ailstrwythuro er mwyn darparu amrywiaeth hyd yn oed yn ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. O ganlyniad i'r ailstrwythuro, mae pedwar tîm rheoli achosion llai wedi'u creu a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio Uwch-weithiwr Cymdeithasol a fydd wedi'i leoli yn ein Tîm Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal. Datblygwyd y tîm dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod ein Plant sydd â phrofiad o fod Mewn Gofal yn derbyn y gwasanaeth a'r canlyniadau y maent yn eu haeddu. Mae'r strwythur yn cynnwys un rheolwr tîm, dau ddirprwy reolwr tîm a dau uwch ymarferydd.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae'r gwasanaeth hwn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Mae ein Timau Ardal wedi'u lleoli mewn tair canolfan gymunedol o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â phlant ag anableddau a phobl ifanc 16 oed a throsodd y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Yn 2023 lansiodd Gofal Cymdeithasol Plant y model gwaith cymdeithasol ‘Arwyddion Diogelwch’ sy'n sail i'n holl ymarfer yng Ngwasanaethau Plant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol sydd â 3 blynedd o brofiad neu fwy o wasanaeth. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch reolwr y tîm Rhian Bowen ar 01656 815211
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Tachwedd 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 6 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person