Mae gennym 1 x 24 awr swydd a 2 x 27 awr swydd ar gael.
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Sunny Bank yn gartref pwrpasol a fydd yn darparu asesu, gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed. Gellir lletya hyd at bedwar o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg
Bydd Sunny Bank yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n cael ei lywio gan drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau cydnerthedd a hunanofal.
Bydd gan Sunny Bank fynediad at Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle a fydd yn cynorthwyo'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
Fel gweithiwr preswyl plant bydd angen i chi fod yn barod i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan fel rhan o'ch sefydlu, yna'r FfCCh lefel 3 mewn plant a phobl ifanc fel y'i rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd ar ôl cwblhau eich sefydlu'n llwyddiannus.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Chwefror 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 20 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person