18 awr yr wythnos
x 2 swydd
Mae gwasanaeth seibiant Bakers Way ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu gofal seibiant tymor byr i blant a phobl ifanc ag anableddau/anghenion iechyd cymhleth o'u genedigaeth hyd at 18 oed.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Preswyl gofalgar a brwdfrydig, a fydd yn rhoi ein plant a'n pobl ifanc wrth wraidd popeth a wnânt.
Yn y rôl bwysig a gwerth chweil hon, byddwch yn darparu pob agwedd ar ofal, ar sail unigol a grŵp, gan gynnwys paratoi pobl ifanc ar gyfer annibyniaeth.
Fel gweithiwr preswyl, yn ein tîm cymorth gofal, byddwch yn helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, ac yn ymgymryd â dyletswyddau cartref, yn ogystal â rhai tasgau unigol a chymorth cymdeithasol er mwyn galluogi'r plant a'r bobl ifanc yn ein gofal i ffynnu a datblygu'n fwy annibynnol.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm, sy'n gallu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn. Dylech hefyd allu cyd-dynnu'n dda â phlant a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes.
Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 neu gyfwerth neu'r parodrwydd i gwblhau'r cymhwyster drwy'r rôl yn unol â chanllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae ein pobl ifanc yn derbyn gofal ar sail 24 awr. Oherwydd bod y swydd yn un breswyl, bydd yn ofynnol i chi weithio yn ystod yr wythnos, a phenwythnosau. Mae disgwyliad i weithio naill ai bore, prynhawn a rhai cyfnodau cysgu i mewn i gefnogi hyn.
Bydd ymarfer ysgrifenedig 10 munud a phroses gyfweld 30 munud.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 31 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 05 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person