37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi i uwch-ymarferydd ymuno â'n tîm gwaith cymdeithasol dynamig yn yr ysbyty. Mae tîm yr ysbyty yn dîm yng nghanolfan rhyddhau Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gan dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty rôl hanfodol wrth roi cefnogaeth a chymorth i oedolion a'u teuluoedd ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn cynnal asesiadau i hwyluso pontio didrafferth, diogel, ac amserol o'r ysbyty i'r cartref neu i leoliadau gofal amgen.
Rydym yn cynorthwyo pobl yn yr ysbyty yn ystod adegau o argyfwng, gan gynorthwyo pobl i lywio eu taith ysbyty yn llwyddiannus.
Mae'r tîm yn chwarae rhan ganolog wrth wella llesiant cyffredinol unigolion pan maent yn yr ysbyty ac yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, gan sicrhau bod ganddynt y cymorth angenrheidiol yn ei le a hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar y person yn y system gofal iechyd.
A chithau'n uwch-ymarferydd, byddwch yn ymgymryd â rôl arwain, gan gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol y tîm gwaith cymdeithasol. Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
Darparu canllawiau, cymorth ac arweiniad i'r tîm gwaith cymdeithasol, gan sicrhau cydweithio effeithiol a dilyn arferion gorau.
Goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol gan roi arweiniad, cymorth, a mentora i wella eu datblygiad proffesiynol.
Meddu ar lwyth bach o achosion cymhleth sy'n gofyn am sgiliau gwaith cymdeithasol uwch.
Gwaith datblygu ac ymchwil a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol y tîm.
Rheoli perfformiad a sicrhau ansawdd gan sicrhau arfer gorau, penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, dilyn deddfwriaeth a phrosesau CBSP.
Cefnogi'r rheolwr y tîm i sicrhau bod tîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty yn gweithredu'n effeithiol.
Cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau partner.Dirprwyo yn absenoldeb y rheolwr tîm.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Rydym yn chwilio am uwch-weithiwr cymdeithasol brwdfrydig a dyfeisgar a fydd yn gallu ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i anghenion y bobl rydym yn gweithio gyda nhw.
Mae'r rhinweddau hanfodol yn cynnwys sgiliau cyfathrebu cryf, brwdfrydedd, gweithio mewn amgylchedd cyflym, hyfedredd mewn gweithio amlddisgyblaethol a'r gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd yn bendant â phartneriaid allweddol.
Rydym yn ceisio datganiadau o ddiddordeb i ddechrau ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Oedolion Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 03 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person