37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Rydym yn ceisio penodi gweithwyr cymdeithasol creadigol, brwdfrydig, uchelgeisiol amser llawn yn y Rhwydweithiau Clwstwr Integredig. Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; therapi lleferydd ac iaith; fferylliaeth a nyrsio seiciatrig cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Gan ddefnyddio model gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau, mae'r timau'n cefnogi oedolion a'u gofalwyr i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau ac annog cynhwysiant ehangach mewn cymunedau lleol. Ystyrir bod sicrhau llesiant emosiynol mwyaf posibl unigolyn yn allweddol mewn arfer gwaith cymdeithasol effeithiol.
Rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu dulliau arloesol o ran arfer gwaith cymdeithasol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu a phartneriaid eraill yn y clwstwr ac yn defnyddio'r Model Gofal Wrth Gefn i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chartrefi gofal fel rhan o'n rôl i sicrhau'r annibyniaeth a'r dewis mwyaf posibl. Bydd datblygiad parhaus y model gwasanaeth dynamig hwn yn ei gwneud yn ofynnol gwneud gwaith i ehangu cyfleoedd partneriaeth gyda phartneriaid statudol; y trydydd sector a chydag unigolion o'r gymuned.
Rydym yn chwilio'n arbennig am y rhai sydd â diddordeb mewn gwaith cymunedol ac ymarfer gwaith cymdeithasol therapiwtig.
Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau cymunedol, grwpiau a gwasanaethau cydnerth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y swyddi naill yn ein swyddfa yn y Pîl neu yng Nglan-rhyd. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu â ffocws ac ymrwymedig i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Rydym yn annog sgwrs anffurfiol ar ymweliad cyn y cyfweliad.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag un o'r tri rheolwr tîm gwaith cymdeithasol:
Sue Carlisle ar susan.carlisle@bridgend.gov.uk i drefnu sgwrs.
Cynhelir cyfweliadau o fewn dwy wythnos i ddyddiad cau'r hysbyseb.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon.
Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person