37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch-ymarferydd llawn cymhelliant ymuno â'n Canolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Mae'r tîm wedi cael ei ailgyflunio a'i ddatblygu yn dilyn ailstrwythuro gwaith cymdeithasol yn ddiweddar.
Byddwch yn rhan o'r Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, gan ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol i oedolion sydd wedi profi newid yn eu hamgylchiadau sydd wedi effeithio ar eu galluoedd arferol i fyw'n annibynnol.
Mae'r tîm yn darparu ymateb gwaith cymdeithasol tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, byddwch yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a mynediad at wasanaethau cyffredinol. Byddwch yn sicrhau mynediad teg i ofal a chymorth galluogi tymor byr wedi'i deilwra i oedolion y mae anabledd a heneiddio yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ‘Yr hyn sy'n bwysig’ i unigolion a gofalwyr, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar lais a rheolaeth.
A chithau'n uwch-ymarferydd, byddwch yn ymgymryd â rôl arwain, gan gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
darparu canllawiau, cymorth ac arweiniad i'r tîm gwaith cymdeithasol, gan sicrhau cydweithio effeithiol a dilyn arferion gorau.
Goruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol gan roi arweiniad, cymorth, a mentora i wella eu datblygiad proffesiynol.
Meddu ar lwyth bach o achosion cymhleth sy'n gofyn am sgiliau gwaith cymdeithasol uwch.
Gwaith datblygu ac ymchwil a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol y tîm.
Rheoli perfformiad a sicrhau ansawdd gan sicrhau arfer gorau, penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, dilyn deddfwriaeth a phrosesau CBSP.
Cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau partner.
Dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Tîm.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person