37 awr yr wythnos
Mae'r awdurdod lleol yn ymroddedig i ddefnyddio'r sail dystiolaeth gynyddol ar gyfer datblygu gwasanaethau arloesol sy'n gweithio'n effeithiol gyda theuluoedd sy'n dioddef sawl symptom o allgáu cymdeithasol ac sydd wedyn yn dibynnu'n sylweddol ar amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus.
Yn y cyd-destun hwn, mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o'r gwasanaeth cyswllt dan oruchwyliaeth. A chithau'n rheolwr cyswllt dan oruchwyliaeth, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo plant i gael amser teulu o ansawdd gyda rhieni ac aelodau o'r teulu nad ydynt yn gallu byw gyda nhw, yn ogystal â chynorthwyo'r rheolwr tîm a'r gweithwyr cyswllt yn eu rôl. Rydym yn chwilio am ddirprwy reolwr tîm i ymuno â'r gwasanaeth a chanddo ddull ‘gallu gwneud’ ac sy'n ymrwymedig i ddarparu a datblygu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.
Fel dirprwy reolwr cyswllt byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â'r timau rheoli achosion ac yn gyfrifol am sicrhau bod plant a theuluoedd a gynorthwyir gan yr awdurdod lleol yn cael sesiynau cyswllt diogel ac effeithiol yn unol â pholisïau, arfer gorau, deddfwriaeth, gweithdrefnau a systemau mewnol presennol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 22 Ionawr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Ionawr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 5 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person