37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol goruchwylio sy'n mwynhau gweithio mewn gwasanaeth heriol, cyflym wedi codi yn Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Tîm Maethu yn rhan o Ranbarth Cwm Taf ac fel rhan o'n dull o recriwtio gofal maeth ychwanegol rydym wedi datblygu drws ffrynt rhanbarthol i sicrhau ymateb amserol i unrhyw ymholiadau newydd.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol dynamig, brwdfrydig a gwybodus i oruchwylio gofalwyr maeth a chwblhau adolygiadau blynyddol yn unol â gofynion rheoleiddio.
Byddwch yn cynnal asesiadau Ffurflen F ar gyfer darpar ofalwyr maeth cyffredinol ac yn cynorthwyo'r ymgeiswyr hynny drwy'r broses asesu, mynd ati'n rhagweithiol i gynorthwyo wrth recriwtio gofalwyr maeth a meddu ar wybodaeth gyfoes am Reoliadau Maethu.
Byddwch yn ymwneud â'n datblygu cymorth cymheiriaid i ofalwyr drwy fynychu grwpiau cymorth, mynychu/trefnu gweithdai cymorth a datblygu ar gyfer gofalwyr maeth. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gynorthwyo'r gwaith o gadw gofalwyr drwy gefnogi digwyddiadau i ofalwyr a'r plant yn eu gofal ar adegau allweddol o'r flwyddyn a chefnogi digwyddiadau ymgynghori.
Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio ar draws yr holl dimau Plant yn yr awdurdod lleol, yn enwedig y Tîm Profiad Gofal sy'n cefnogi plant sy'n derbyn gofal. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Maethu gan Berthynas a Sefydlogrwydd sy'n cynorthwyo gofalwyr maeth sy'n bersonau cysylltiedig a Gwarcheidwaid Arbennig a rhannu Dyletswydd.
Rydym yn dîm bach a chyfeillgar gyda chyfleoedd dysgu a datblygu gwych i staff wneud cynnydd o ran eu dyheadau gyrfa. Dim ond oherwydd dilyniant gyrfa o fewn y tîm y mae'r swydd hon wedi dod ar gael.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Fe'i lleolir mewn safle dymunol rhwng Abertawe a Chaerdydd ac mae'n ymestyn o'r cymoedd hardd i'n harfordir hyfryd – gyda mynediad hawdd i ganolfannau trefol yn ogystal â lleoliadau gwledig ac arfordirol deniadol. Gydag ysgolion ardderchog, tai fforddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus ardderchog, mae rhywbeth at ddant pawb yma, a digon i'w wneud drwy gydol y flwyddyn i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Amanda De Leon Capdesuner, Rheolwr Tîm Maethu Cyffredinol ar 07483396337 / 01656 643420 neu amanda.capdesuner@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 3 Rhagfy 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Rhagfy 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Rhadfy 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person