32 awr yr wythnos
A oes gennych brofiad o weithio ym maes Gofal Preswyl Plant?
Os felly, yna mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae angen ein cymorth arnynt. Rydym yn parhau i ehangu ar ein darpariaeth gydag ychwanegiad gwasanaeth newydd.
Mae'r cartrefi yn darparu lleoliadau o hyd amrywiol i blant/pobl ifanc yn yr ystod oedran 6 i 18 oed (ar adeg eu derbyn) nad ydynt am resymau amrywiol yn gallu byw gyda'u teulu uniongyrchol neu estynedig eu hunain.
Mae'r cartrefi yn ymrwymedig i gynnig amgylchedd ysgogol, diogel, gofalgar sy'n hyrwyddo dull cyfannol ar gyfer pob agwedd ar fywyd y plentyn/person ifanc.
Nod y cartrefi yw:
- Darparu pecyn cymorth unigol i blant/pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion asesedig.
- Cynnig ymyriadau sy'n seiliedig ar wybodaeth therapiwtig i blant/pobl ifanc i'w cynorthwyo i gyflawni llesiant personol.
- Cynorthwyo plant/pobl ifanc i archwilio eu materion a'u profiadau eu hunain a gweithio drwy unrhyw emosiynau a theimladau a allai fod yn rhwystr i leoliad sefydlog a llety yn y dyfodol.
- Darparu lefelau cymorth priodol sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi, ac yn annog plant/pobl ifanc i gynnal sgiliau a chymwyseddau personol a hyrwyddo eu hyder a'u hunan-barch.
- Darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth addysgol i hyrwyddo'r canlyniadau gorau posibl i blant/pobl ifanc yn eu lleoliad addysgol.
- Gweithio'n agos gyda theuluoedd neu deuluoedd dirprwyol i sicrhau pan fydd plant/pobl ifanc yn dychwelyd adref neu'n mynd i leoliadau addas eraill, bod annibyniaeth eu person ifanc yn cael ei hyrwyddo.
- Darparu rhaglenni byw'n annibynnol sy'n briodol i oedran er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i fyw'n annibynnol, os yw hynny'n briodol.
A chithau'n Uwch-weithiwr Preswyl Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er y byddwch wedi'ch lleoli mewn un gwasanaeth, ar adegau efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio ar draws amrywiaeth o wasanaethau gan gynorthwyo pobl ifanc a'r gwasanaeth preswyl yn ei gyfanrwydd. Byddwch yn gymwys yn unol â'r fframwaith cymwysterau, yn ogystal â meddu ar brofiad sylweddol o weithio ym maes gofal preswyl plant a bydd gennych brofiad addas sy'n manylu ar hyn. Fel Uwch-weithiwr byddwch yn gyfrifol am drefnu a chynnal shifftiau, mynychu cyfarfodydd, ysgrifennu adroddiadau, iechyd a diogelwch, cefnogi gweithio allweddol, arian mân, meddyginiaeth, goruchwylio staff a sicrhau bod gofynion rheoleiddio yn cael eu bodloni.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o'r tîm rheoli yn y gwasanaeth ac yn rhan annatod o'n gwaith o ddarparu gofal a chymorth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i'w ddatblygiad proffesiynol personol ei hun ond hefyd yn ymrwymedig i wella a datblygu'r gweithlu o dan eich gofal. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd fod yn gymwysedig i lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc), ac os nad ydynt eisoes yn meddu ar gymhwyster lefel 4 (paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth) a/neu lefel 5 (arweinyddiaeth a rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer), parodrwydd i weithio tuag at y rhain. Rydym yn ymrwymedig i wella a datblygu gweithwyr, gan hwyluso eu dilyniant a'u datblygiad proffesiynol parhaus.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus a bod yn rhan o wasanaeth cynyddol sy'n cynnig llwybrau posibl i ddatblygiad a chyfleoedd yn y dyfodol? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol a chefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae cysgu i mewn, gweithio ar benwythnosau, a dyletswyddau wrth gefn yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person