37 awr yr wythnos
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n pontio i fyd oedolion.
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm Anableddau Plant a Phontio prysur, llawn cymhelliant a chefnogol.
Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol mewn gwasanaethau plant neu oedolion ac awydd i arbenigo mewn gweithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion anabl. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle prin i reoli achosion plant ac oedolion ac i gael amrywiaeth eang o brofiad o reoli achosion ar draws y rhychwant oedran o fewn tîm cefnogol.
Byddwch yn cynorthwyo'r rheolwr tîm a'r dirprwy reolwr i ddarparu cymorth i weddill y tîm a byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau rheoli a goruchwylio i'ch helpu i gyflawni unrhyw ddyheadau gyrfa yn y dyfodol er mwyn symud i rôl rheoli tîm.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon a hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Bev Whiteley, Rheolwr Tîm, Tîm Anableddau Plant a Phontio ar (01656) 815442.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 29 Ionawr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person