2 x swydd 30 awr
2 x swydd 35 awr
Ymunwch â'n Tîm fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn y Gwasanaethau Llety Arhosiad Byr a Brys!
A ydych yn angerddol am gynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu drwy gyfnodau o bontio, argyfwng, neu seibiant? A oes gennych y tosturi, y creadigrwydd, a'r hyblygrwydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylcheddau gofal tymor byr a brys? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi!
Amdanom ni:
Mae Gwasanaethau Arhosiad Byr Breakaway a Llety Brys Ael y Bryn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu cymorth tymor byr a brys hanfodol i oedolion ag anableddau dysgu. Mae ein gwasanaethau wedi'u cynllunio i hyrwyddo sefydlogrwydd, sicrwydd, a llesiant yn ystod adegau o newid neu argyfwng. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gofal hyblyg sy'n canolbwyntio ar y person sy'n blaenoriaethu diogelwch, urddas, ac annibyniaeth.
Y Rôl:
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a gwydn i ymuno â'n tîm fel Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Yn y rôl hon, byddwch yn:
- Darparu cymorth ymarferol, emosiynol sy'n canolbwyntio ar y person i unigolion sy'n aros mewn llety arhosiad byr neu frys.
- Helpu unigolion i setlo yn eu harhosiad, gan greu amgylchedd diogel, croesawgar, a strwythuredig.
- Cymorth gyda gweithgareddau bywyd bob dydd fel gofal personol, paratoi prydau bwyd, a thasgau yn y cartref.
- Hyrwyddo arferion cadarnhaol, gweithgarwch ystyrlon a mynediad cymunedol lle y bo'n briodol.
- Ymateb yn hyderus ac yn effeithiol i amrywiaeth o anghenion ac ymddygiad, gan sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cefnogi'n dda.
- Gweithio fel rhan o dîm dynamig, ymatebol, gan dderbyn hyfforddiant llawn a goruchwyliaeth reolaidd.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- Amgylchedd gwaith cefnogol a hyblyg.
- Cyfraddau tâl cystadleuol: £14.13 yr awr, £18.84 yr awr ar benwythnosau
£13.47 yr awr am shifftiau nos yn ystod yr wythnos, a £22.45 yr awr am shifftiau nos ar benwythnosau.
- Lwfans ychwanegol am ddyletswyddau cysgu i mewn.
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr i feithrin eich hyder a'ch gwybodaeth.
- Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys pynciau arbenigol sy'n berthnasol i gymorth brys ac arhosiad byr.
- Hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
- Mynediad at gynlluniau gwobrwyo staff, gan gynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, a llawer mwy.
- Cymorth iechyd a llesiant galwedigaethol.
Gofynion:
- Dull cadarnhaol a phwyllog gyda dealltwriaeth gref o'r heriau sy'n wynebu oedolion ag anableddau dysgu.
- Hyblygrwydd i weithio shifftiau, gan gynnwys penwythnosau, a gwyliau banc.
- Gallu addasu'n gyflym i anghenion a chynlluniau cymorth sy'n newid mewn amgylcheddau cyflym.
- Ymrwymiad i ofal sy'n canolbwyntio ar y person a hyrwyddo annibyniaeth, diogelwch, a llesiant.
Ymunwch â ni:
Os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth a ffynnu mewn rôl sy'n dod â heriau a gwobrwyon newydd bob dydd, rydym am glywed gennych. Helpwch ni i ddarparu gofal tymor byr diogel a chefnogol sy'n grymuso i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Gwnewch gais nawr a dod yn rhan hanfodol o'n gwasanaethau cymorth ymatebol, dan arweiniad y person.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 21 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 29 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person