37 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor
Mae'r Grŵp Cynhwysiant yn chwilio am Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gwybodus a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Gwybyddiaeth a Dysgu ADY Blynyddoedd Cynnar. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi darparwyr addysg nas cynhelir i ddarparu darpariaeth gynhwysol, o ansawdd uchel i blant ag ADY.
Mae'r Tîm ADY Blynyddoedd Cynnar yn gweithio ar y cyd â lleoliadau nas cynhelir, ysgolion, teuluoedd a phartneriaid amlasiantaeth i sicrhau bod plant ag ADY yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae'r tîm yn ymrwymedig i hyrwyddo cynhwysiant, cefnogi'r broses o nodi anghenion yn gynnar a sicrhau bod lleoliadau'n bodloni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, y Cod ADY (2021) a Deddf Cydraddoldeb 2010.
Fel Swyddog ADY, byddwch yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i ddarparwyr addysg nas cynhelir i'w galluogi i nodi, asesu a diwallu anghenion plant ag ADY yn effeithiol. Gan weithio fel rhan o dîm ymroddedig a chefnogol, byddwch yn:
- Cefnogi lleoliadau â'r gwaith o nodi yn gynnar, asesu a chynllunio ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Rhoi cyngor ar strategaethau, ymyriadau ac adnoddau priodol i gefnogi datblygiad a dysgu plant.
- Cynorthwyo lleoliadau i ddatblygu ac adolygu Proffiliau Un Dudalen, cynlluniau cymorth wedi'u targedu a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (ALP).
- Cefnogi'r broses Cynllun Datblygu Unigol (CDU) mewn lleoliadau nas cynhelir.
- Gweithio gyda phlant, lleoliadau ac ysgolion i gefnogi pontio effeithiol i leoliadau addysgol a rhyngddynt.
- Darparu cyngor ac arweiniad i staff cymorth ynghylch dulliau gwahaniaethol ac ymarfer cynhwysol.
- Cydweithio ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ac asiantaethau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant a theuluoedd.
- Cyfrannu at y defnydd effeithiol o ddata a gwybodaeth i gefnogi cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil i rywun sy'n angerddol am wella canlyniadau i blant ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a chefnogi ymarfer cynhwysol ar draws lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant, prosesau dysgu ac ymarfer cynhwysol. Bydd gennych wybodaeth dda am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a'r Cod ADY, ochr yn ochr â dealltwriaeth o strategaethau ac ymyriadau blynyddoedd cynnar effeithiol. Byddwch yn hyderus wrth feithrin perthynas gadarnhaol â lleoliadau, ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau partner, gyda sgiliau cyfathrebu, trefnu a TGCh rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, yn gallu dangos ymrwymiad i gynhwysiant a datblygiad proffesiynol parhaus, ac yn meddu ar brofiad o weithio amlasiantaeth cydweithredol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Helen.coles@bridgend.gov.uk.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 21 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 3 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person