37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig i ymgymryd â'r rôl gyffrous Unigolyn Cyfrifol ar gyfer pum gwasanaeth preswyl i blant, gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth sylweddol i ofal a datblygiad plant a phobl ifanc ar draws y fwrdeistref.Y rôl:Fel yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer ein gwasanaethau preswyl i blant, byddwch yn rhoi arweinyddiaeth strategol i sicrhau'r safonau uchaf o ofal a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Gyda gwasanaethau sy'n ymroddedig i gefnogi plant ag anghenion amrywiol a chymhleth, bydd eich rôl yn cynnwys:Goruchwylio'r gwaith o ddarparu gofal eithriadol ar draws pum gwasanaeth preswyl i blant a phobl ifanc.Arwain Rheolwyr Cofrestredig i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel, yn meithrin, ac yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac ysgogi gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau.Arwain y gwaith o ehangu gwasanaethau preswyl i blant, gweithio gyda'r cyngor a phartneriaid allanol i ddatblygu darpariaethau newydd sy'n diwallu anghenion plant mewn gofal.Meithrin diwylliant cydweithredol, gan sicrhau bod lleisiau plant yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau.Amdanoch chi:Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sydd â chefndir cryf ym maes rheoli gwasanaethau preswyl i blant. Bydd angen y canlynol arnoch:Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.Profiad sylweddol mewn rôl arweinyddiaeth ym maes gwasanaethau preswyl i blant.Dealltwriaeth drylwyr o reoliadau RISCA a fframwaith arolygu AGC.Gallu amlwg i arwain, ysbrydoli a datblygu timau staff, gan ysgogi diwylliant o berfformiad uchel a gwelliant parhaus.Meddylfryd strategol i arwain y gwaith o ehangu gwasanaethau.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor. Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 05 Rhagfyr 2024 Dyddiad Cyfweld: 16 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person