37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc, a theuluoedd? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd gyda gwasanaethau “Ar Ffiniau Gofal” arloesol, unol, sy'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar i gadw teuluoedd gyda'i gilydd a darparu cymorth cadarn pan fo ei angen fwyaf. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth i Deuluoedd (x2) ymroddedig i ymuno â'n tîm Camfanteisio a helpu i lunio dyfodol cymorth i deuluoedd.
Pam Pen-y-bont ar Ogwr?
Mae gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cymorth arloesol, i'r teulu cyfan sydd wedi'i anelu at atal plant rhag mynd i mewn i'r system ofal. Fel rhan o’n tîm Camfanteisio, byddwch yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y person o ran gwaith gyda phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd, gan ddarparu cymorth ymatebol a hyblyg i feithrin diogelwch, llesiant a gwydnwch hirdymor.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cyflwyno ymyriadau wedi'u teilwra, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr i leihau'r risg sy'n gysylltiedig â chamfanteisio.
Gweithio'n ddwys gyda theuluoedd gan ddefnyddio dulliau sy'n ystyriol o drawma, sy'n seiliedig ar gryfderau a dulliau ysgogol i gynyddu ffactorau amddiffynnol.
Meithrin perthnasoedd ymddiriedol gyda phobl ifanc a allai fod yn anodd ymgysylltu â nhw, gan sicrhau bod eu llais a'u profiad bywyd yn llywio'r gwaith.
Cynnwys rhieni/gofalwyr i adeiladu capasiti a dealltwriaeth o gamfanteisio, gan gynorthwyo cynllunio diogelwch a arweinir gan deuluoedd.
Darparu allgymorth pendant i leihau niwed, gan gynnwys gwaith cymunedol, ymweliadau ysgol, a chyswllt partneriaeth.
Gweithio ar y cyd mewn gwasanaeth camfanteisio wedi'i gyd-leoli, amlasiantaethol a chyda phartneriaid ehangach fel addysg, cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, ac iechyd
Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau drwy waith bore, gyda'r nos, ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.
Defnyddio dull diogelu cyd-destunol i asesu risgiau y tu allan i'r teulu ac ymateb iddynt.
Ymateb i sefyllfaoedd argyfwng yn bwyllog ac yn effeithiol, gan gynnwys uwchgyfeirio pryderon diogelu
Ymateb i sefyllfaoedd argyfwng yn bwyllog ac yn effeithiol, gan gynnwys uwchgyfeirio pryderon diogelu yn unol â phrosesau statudol.
Mae trwydded yrru ddilys y DU a'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn fanteisiol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Cymwysedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FfCCh Lefel 3 neu gyfwerth).
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, yn ddelfrydol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, neu'r sector gwirfoddol.
Yn wybodus am amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed a'r fframwaith deddfwriaethol sy'n ategu gwaith teuluol.
Unigolyn cydnerth sy'n barod i newid, sy'n gyfforddus ag oriau amrywiol a hyblyg.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Ymunwch â thîm Camfanteisio Pen-y-bont ar Ogwr a dod yn rhan o Gyngor sy'n ymrwymedig i lesiant teuluoedd ac atebion cymorth arloesol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amgylchedd cefnogol ar gyfer twf proffesiynol a'r cyfle i gael effaith bendant ar fywydau teuluoedd yn ein cymuned.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 22 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 03 Tachwedd
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person