37 awr yr wythnosRydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr ymroddedig a rhagweithiol i gefnogi arweinyddiaeth dau wasanaeth plant:Tŷ Harwood: Gwasanaeth preswyl 3 gwely sy'n darparu amgylchedd diogel a meithringar i blant ag anghenion iechyd cymhleth.Gwasanaeth Seibiant Bakers Way: Gwasanaeth hanfodol sy'n cynnig gofal seibiant i blant ag anghenion iechyd cymhleth, gan roi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd i ffynnu.A chithau'n Ddirprwy Reolwr, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr i sicrhau y darperir gofal a chymorth o ansawdd uchel ar draws y ddau wasanaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â rôl arweinyddiaeth a chyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a'u teuluoedd.Cyfrifoldebau Allweddol:Arweinyddiaeth Gefnogol: Cynorthwyo'r Rheolwr i oruchwylio gweithrediadau dyddiol, gan sicrhau bod y ddau wasanaeth yn cyrraedd safonau gofal ac yn rhagori arnynt.Cydweithrediad Tîm: Helpu i arwain, cynorthwyo, ac ysbrydoli tîm ymroddedig, gan hyrwyddo datblygu proffesiynol a diwylliant o ragoriaeth.Ansawdd Gwasanaeth: Gweithio i sicrhau bod gofal tosturiol, unigol yn cael ei ddarparu sy'n mynd i'r afael ag anghenion unigryw plant a'u teuluoedd.Rheoli Gweithredol: Cyfrannu at gynnal cydymffurfiaeth â'r holl reoliadau perthnasol a helpu i ddarparu gwasanaethau didrafferth.Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd, staff, a phartneriaid allanol i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.Mae'r rôl hon yn beripatetig felly byddai disgwyliad i gyflenwi ar gyfer rheoli yn ein gwasanaethau preswyl eraill i gwmpasu gwyliau blynyddol, salwch ac ati.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor. Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant ac Oedolion Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae Cysgu i Mewn, Gweithio ar y Penwythnos, Ymateb Brys yn ofyniad ar gyfer y swydd hon. Dyddiad Cau: 29 Ionawr 2025 Dyddiad llunio rhestr fer: 30 Ionawr 2025 Dyddiad Cyfweld: 10 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person