32 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Tŷ Hillsboro yn rhoi gofal a chymorth i un plentyn/person ifanc na ellir ei osod ochr yn ochr ag eraill oherwydd ei anghenion cymhleth. Mae Tŷ Hillsboro yn gartref argyfwng, fe'i defnyddir fel lleoliad pontio tymor canolig, gan gefnogi'r unigolyn i symud ymlaen tuag at bontio i leoliad hirdymor sefydlog. Oherwydd natur y gwasanaeth, mae posibilrwydd y gallai fod yn ‘anweithredol’ pan fydd y person ifanc yn symud allan, a byddai staff yn parhau â'u rôl yn cefnogi ein gwasanaethau plant eraill. Gall Hillsboro ddod yn weithredol ar fyr rybudd, byddai staff yn symud yn ôl yn gyflym os bydd plentyn neu berson ifanc priodol mewn argyfwng yn cael ei atgyfeirio. Mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn fwy adweithiol a gall hefyd osgoi'r opsiwn arall, sef lleoliad y tu allan i'r sir.
Mae Tŷ Hillsboro yn ceisio cynnig cyfle ar gyfer oedi a deall angen yr unigolyn yn well, rydym yn cynorthwyo pobl ifanc â phontio ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc i wasanaethau sy'n fwyaf addas i hyrwyddo newid a datblygu cadarnhaol. Ein ffocws yw darparu amgylchedd therapiwtig i sefydlogi ymddygiad heriol y plentyn/person ifanc, gweithio ar wella unrhyw ymddygiad cymryd risg, ailgysylltu ag addysg neu unrhyw anawsterau presennol eraill sydd ganddynt.
Fel gweithiwr preswyl plant bydd angen i chi fod yn barod i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan fel rhan o'ch sefydlu, yna'r FfCCh lefel 3 mewn plant a phobl ifanc fel y'i rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd ar ôl cwblhau eich sefydlu'n llwyddiannus.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A ydych yn llawn cymhelliant ac yn awyddus i weld canlyniad cadarnhaol ar gyfer y person ifanc.
A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau nos, cysgu i mewn, a gweithio ar benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 23 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person