37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 2 flynedd yn unol â'r prentisiaeth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio penodi Prentis Systemau AD i weithio yn ei wasanaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol i ymgymryd â chymhwyster Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol TGCh Lefel 3. Mae'r brentisiaeth hon yn gyfle gwerthfawr i ennill profiad ymarferol yn y gweithle wrth weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Byddwch yn derbyn hyfforddiant strwythuredig yn y swydd a chymorth parhaus drwy gydol eich taith brentisiaeth.
A chithau'n aelod o'n tîm Systemau AD, byddwch yn darparu cyngor i ddefnyddwyr ar faterion system (System AD a Chyflogres iTrent) ac yn cynorthwyo gydag adrodd data i gefnogi'r tîm adnoddau dynol a datblygu trefniadaethol ehangach. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant, trefnus ac ymroddedig sydd â sgiliau cyfathrebu da, sgiliau TG rhagorol a sylw i fanylion.
Os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â Fiona Vickers - Systemau AD (Goruchwylydd) ar Fiona.Vickers@bridgend.gov.uk.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Eithriadau Cymhwyster Lefel 3:
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried i'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys gradd yn yr un maes pwnc. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Cau: 5 Awst 2026
Llunio'r rhestr fer: 10 Awst 2026
Cyfweliad: 18 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person