Os ydych yn unigolyn gofalgar, tosturiol sydd am ddarparu gofal anhygoel sy'n canolbwyntio ar y person, mae ein Gwasanaeth Cymorth Gartref yn aros amdanoch!
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth, a byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain yn ein cymunedau.
Mae profiad yn cael ei groesawu, ond nid oes ei angen; credwn mai pwy ydych chi fel person a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud sy'n bwysig. P'un a ydych yn newydd i'r rôl neu wedi cefnogi teulu neu ffrindiau yn flaenorol, rydym am glywed gennych; y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod gennych angerdd i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi: -
Amrywiaeth o oriau contract hyblyg parhaol ac achlysurol i hyrwyddo cydbwysedd bywyd/gwaith.
Cyflog cystadleuol yn amrywio o £12.59 - £16.78 yr awr (Cyfradd Gŵyl y Banc £25.18)
Lwfans milltiroedd ar gyfer teithio sy'n gysylltiedig â gwaith - 47c y filltir
Hawl i wyliau blynyddol hael
Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
Cymwysterau wedi'u cyllido a'u cefnogi'n llawn - FfCCh Lefel 2 ac uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol (os nad ydych wedi'u cyflawni eisoes) a thelir am Gofrestriad Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Gwersi Cymraeg am ddim.
Ffôn symudol ar gyfer galwadau a chymorth sy'n gysylltiedig â gwaith.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys: -
Darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol, gan gydnabod cryfderau, galluoedd a chanlyniadau a ddymunir. Annog pobl i wneud dewisiadau hyddysg gan gydnabod yr hyn sy'n bwysig iddynt yn eu bywydau.
Rhoi cymorth i hyrwyddo annibyniaeth gydag agweddau ar fywyd bob dydd a nodwyd yng nghynlluniau gofal a chymorth unigolion a allai gynnwys deiet/paratoi bwyd, cymorth gyda meddyginiaeth a hylendid personol.
Gweithio fel rhan o dîm ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, a chydweithwyr iechyd i gyflawni canlyniadau a nodwyd.
Cymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio a chyfleoedd datblygu gyrfa fel y cytunwyd arnynt gyda'ch rheolwr a chymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gwella cymhwysedd yn eich rôl.
Bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau eich hun o ran diogelu unigolion mewn perygl a rhoi gwybod am unrhyw bryderon a allai roi'r unigolyn, chi, neu eraill mewn perygl.
I ddysgu rhagor am rôl y swydd ffoniwch Claire James, Rheolwr Gweithredol ar 01656 642748 neu anfonwch neges e-bost at Claire.James@bridgend.gov i gael rhagor o wybodaeth.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 30 Hydref 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person