37 awr yr wythnos
Dros dro tan Ebrill 2027
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae Tîm y Clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Mae'r Timau yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Deieteteg, Therapi Iaith a Lleferydd, Fferylliaeth a Nyrsio Seiciatrig Cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Bydd y rôl yn hyrwyddo ac yn cyrraedd safonau uchel o ymarfer proffesiynol, ymyrraeth ac arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol, gan gefnogi datblygiad gwaith cymdeithasol ac ymarfer integredig gyda'r tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth mewn gwasanaeth integredig, a byddai eich rôl yn adlewyrchu hynny. Byddwch yn darparu cymorth lefel uchel i'r Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig ac i aelodau eraill o'r tîm amlbroffesiynol.
Mae'r Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig yn gweithio gydag oedolion sydd ag anghenion hirdymor, cymhleth ac amlweddog. Mae'r tîm yn darparu dull integredig o ofal a chymorth, sy'n canolbwyntio ar ‘lais’ y person ac anghenion eu teuluoedd, gofalwyr; neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. A chithau'n weithiwr cymdeithasol proffesiynol profiadol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol ac yn goruchwylio ymyriad mewn tîm amlddisgyblaethol dynamig. Mae arloesi, a gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol, yn ogystal â chreadigrwydd ym maes Gwaith Cymdeithasol a'r Model Integredig, yn allweddol i'r swydd hon.
Darparu ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol drwy arwain a hyrwyddo'r lefel uchaf o sgiliau ymarfer a datblygiadau, drwy'r gallu i ysbrydoli a mentora'r tîm.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 22 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person