15 awr yr wythnosAmser TymorMae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd cogydd cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Llidiart yn cefnogi'r cogydd i baratoi prydau ysgol gynradd am ddim i bawb a rheoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.Dyddiad Cau: 12 Tachwedd 2025Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 14 Tachwedd 2025 Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 1 Rhagfyr 2025Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar OgwrDisgrifiad Swydd a Manyleb y Person