37 awr yr wythnos - Parhaol
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; therapi lleferydd ac iaith; fferylliaeth a nyrsio seiciatrig cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Bydd y rôl hon yn hyrwyddo ac yn cyrraedd safonau uchel o ymarfer proffesiynol, ymyriad ac arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol; a goruchwylio ymarfer gyda'r Rheolwr Tîm yn y tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth mewn gwasanaeth integredig, a byddai eich rôl yn adlewyrchu hynny. Byddwch yn darparu cymorth lefel uchel i'r Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig ac i aelodau eraill o'r tîm amlbroffesiynol.
Mae'r Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig yn gweithio gydag oedolion sydd ag anghenion hirdymor, cymhleth ac amlweddog. Mae'r tîm yn darparu dull integredig o ofal a chymorth, sy'n canolbwyntio ar ‘lais’ y person ac anghenion eu teuluoedd, gofalwyr; neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. A chithau'n weithiwr cymdeithasol proffesiynol profiadol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol ac yn goruchwylio ymyriad mewn tîm amlddisgyblaethol dynamig. Mae arloesi, a gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol, yn ogystal â chreadigrwydd ym maes Gwaith Cymdeithasol a'r Model Integredig, yn allweddol i'r swydd hon.
Darparu ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol drwy arwain a hyrwyddo'r lefel uchaf o sgiliau ymarfer a datblygiadau, drwy'r gallu i ysbrydoli a mentora'r tîm.
Mynd ati i hyrwyddo ein ‘Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau-Gweithio i Gyflawni Canlyniadau’.
PRIF GYFRIFOLDEBAU A GWEITHGAREDDAU:
- Bod yn gyfrifol am reoli'r llwyth gwaith yn ogystal â rheoli llinell a rhoi cyngor a chymorth yn y tîm gwaith cymdeithasol, o fewn y Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig.
- Sicrhau asesiadau o ansawdd uchel a chynlluniau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn cyd-fynd â'r ‘hyn sy'n bwysig’ i bobl. Hyrwyddo rhagoriaeth o fewn ymarfer gwaith cymdeithasol; nodi a gweithredu ar bryderon risg a diogelu; a chymryd rôl arweiniol mewn gwaith ‘Budd Pennaf’’.
- Gan reoli llwyth achosion cymhleth bach, byddant yn cynnal asesiadau integredig o ansawdd uchel mewn partneriaeth ag unigolion, teuluoedd a gofalwyr, a chyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y Tîm Integredig.
- Gan rannu goruchwyliaeth y tîm â'r Rheolwr Tîm, byddant yn goruchwylio staff, gan sicrhau bod ffocws ar arfer sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan gynnig llais, dewis a rheolaeth.
- Ar y cyd â'r Rheolwr Tîm, bod yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn defnyddio adnoddau cymesur i ddiwallu anghenion a nodwyd a lleihau risgiau i annibyniaeth, gan gyfrannu at reoli adnoddau'n effeithiol.
- Cefnogi'r Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn ei rôl; cefnogi cyfrifoldebau ehangach y clwstwr, mewn arloesedd ac arfer gorau i ddiwallu anghenion y boblogaeth, gan gynnwys cefnogi staff newydd mewn rolau arloesol.
- Cyflawni cyfrifoldebau dirprwyedig ar gyfer y Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol; yn ogystal â chefnogi ar y cyd ar draws tri Thîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig a bod yn gyfrifol am adnoddau'r Gyfarwyddiaeth a'r Bwrdd Iechyd fel y'u dirprwywyd ac yn ôl y gofyn.
- Cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau adrannol a'r fframwaith rheoli perfformiad. Cefnogi gydag archwilio; arfarnu staff; goruchwylio a gwella a datblygu gwaith cymdeithasol, a rheoli risg. Ystyried ymchwil ac arfer gorau gwaith cymdeithasol wrth ddatblygu'r gwaith hwn.
- Cynnal cofnodion cyfoes ar y ffeiliau electronig, a dogfennau perthnasol fel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddiaeth a'r Bwrdd Iechyd i gyrraedd safonau da ar gyfer ymarfer.
- Dilyn Cod Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru a bodloni gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer cofrestru, bod yn gyfrifol am eu perfformiad eu hunain yn erbyn targedau iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol y cytunwyd arnynt. Paratoi ar gyfer goruchwylio ac adolygiadau datblygu personol a chymryd rhan ynddynt gyda'r rheolwr llinell.
- Rhoi cymorth, arweiniad a hyfforddiant i ymarferwyr gwaith cymdeithasol a chydweithwyr proffesiynol eraill yn y Tîm Integredig ar ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol, drwy ymgynghori, goruchwylio llwyth achosion, goruchwylio grŵp cymheiriaid gwaith cymdeithasol, a nodi a chyflawni hyfforddiant gwaith cymdeithasol a staff integredig. Arwain ar ddatblygu myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn y Tîm a chyfrannu at ddatblygiad myfyrwyr ehangach yr holl weithwyr proffesiynol yn y Tîm Integredig.
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol; arfer gwaith cymdeithasol gorau a chyfraith achosion a sicrhau bod hyn yn cael ei gymhwyso ym maes arfer gwaith cymdeithasol yn y Tîm Rhwydwaith Clwstwr Integredig i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliant parhaus yn y Gwasanaethau Integredig.
- Cadw at weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 01 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person