37 awr yr wythnos
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd uwch, medrus iawn yn ein swydd Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Mae hon yn swydd newydd sydd wedi'i hychwanegu at ein strwythur ac felly mae'n gyfle cyffrous i weithio ar flaen y gad o ran arfer gorau.
Byddwch yn rhan o'r Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, gan ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol i oedolion sydd wedi profi newid yn eu hamgylchiadau sydd wedi effeithio ar eu galluoedd arferol i fyw'n annibynnol.
Mae'r tîm yn darparu ymateb gwaith cymdeithasol tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, byddwch yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a mynediad at wasanaethau. Byddwch yn sicrhau mynediad teg i ofal a chymorth galluogi tymor byr wedi'i deilwra i oedolion y mae anabledd a heneiddio yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ‘Yr hyn sy'n bwysig’ i unigolion a gofalwyr, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar lais a rheolaeth.
Y rôl:
A chithau'n Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, byddwch yn ymgymryd â rôl arwain, gan gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar.
Bydd gofyniad i gyfrannu at gynllunio gwasanaethau a gwella gwasanaethau, wrth ddarparu cyngor arbenigol ar ymarfer Gwaith Cymdeithasol rhagorol i ymarferwyr yn y tîm. Byddwch yn arwain ar hyrwyddo datblygiad proffesiynol cydweithwyr gan gynnwys cynllunio, cydgysylltu a chyflawni datblygiad ymarfer tîm a goruchwylio grwpiau (e.e. setiau dysgu gweithredol). Byddwch yn rhan annatod o hyrwyddo Gofal Cymdeithasol i Oedolion CBSP fel sefydliad sy'n dysgu.
Bydd y rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynnal ymchwil briodol i sicrhau bod ymyriadau sydd wedi'u cyfoethogi gan dystiolaeth yn sail i ymarfer gwaith cymdeithasol; lledaenu canlyniadau gorau a hyrwyddo gwaith cymdeithasol arloesol, effeithlon ac effeithiol. Bydd y rôl hefyd yn sicrhau bod asesiadau cymesur, cychwynnol, penodol i amser, sy'n seiliedig ar gryfderau, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn cael eu cyflawni, gan alluogi unigolion i sicrhau eu hannibyniaeth fwyaf posibl drwy ddull ataliol, a meithrin gwytnwch.
Bydd deiliad y swydd yn dangos ymrwymiad i ysbrydoli eraill i ddarparu ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol drwy arwain a hyrwyddo'r lefel uchaf o sgiliau ymarfer a datblygiadau, drwy'r gallu i ysbrydoli a mentora'r tîm. Mynd ati i hyrwyddo ein ‘Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau-Gweithio i Gyflawni Canlyniadau’.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 03 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 05 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person