37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig amser llawn ar gyfer Tîm Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel gweithiwr cymdeithasol yn y Tîm Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau, byddwch yn darparu ymateb gwaith cymdeithasol amserol i oedolion sy'n byw gyda chamddefnyddio sylweddau neu alcohol a allai hefyd fod â chyflwr sy'n cyd-fodoli fel iechyd meddwl gwael.
Gan ddefnyddio egwyddorion Cyfweld Ysgogiadol, byddwch yn sicrhau asesiadau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Gan weithio gyda dull amlddisgyblaethol, eich rôl fydd darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol, gan gynnwys cynllunio asesu a gofal a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i bobl.
Lle y bo'n ymarferol, byddwch yn canolbwyntio ar atal a hunanreoli, gan alluogi unigolion i gynnal annibyniaeth drwy gyfuniad o asesu, gofal a chymorth ac ymyriadau ymarferol eraill.
Fel aelod o'r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol ehangach, byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd yn y tîm.
Hefyd byddwch yn hyrwyddo model ymarfer gwaith cymdeithasol y cyngor sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
I gael sgwrs anffurfiol ffoniwch Jamie Barnfield ar 01656 311299
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 5 & 6 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person