37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol tan Mawrth 2028
Rydym yn chwilio am Reolwr Datblygu Cymunedol i helpu i lunio dyfodol hybiau diwylliannol a chymunedol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae hon yn rôl amrywiol gyda'r cyfle i wneud gwahaniaeth i sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau diwylliannol, llyfrgell a chymunedol. Byddwch yn arwain gwaith y Cyngor gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Hyb Cymunedol ac yn helpu i droi cynlluniau ar gyfer cyfleusterau cymunedol yn brosiectau ymarferol sy'n ymateb i anghenion lleol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Cyngor, aelodau etholedig, sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill. Byddwch hefyd yn arwain tîm, yn rheoli cyllidebau a chontractau ac yn cefnogi buddsoddi mewn cyfleusterau a fydd yn helpu cymunedau i gadw mewn cysylltiad ac yn iach.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
Arwain y gwaith o ddatblygu contract Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, gan gynnwys perfformiad, cyllid a llywodraethu.
Arwain y gwaith o gyflawni'r Strategaeth Hyb Cymunedol a helpu i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng hybiau, llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol a chymorth cymunedol ehangach.
Datblygu cynlluniau buddsoddi, ceisiadau cyllido ac achosion busnes, a chefnogi prosiectau cyfalaf.
Rheoli staff a'u cefnogi i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i ddeall anghenion lleol a datblygu gwasanaethau sy'n cefnogi atal a llesiant.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 04 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 06 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 18 - 20 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person