37 awr yr wythnos
Mae cyfle gwych a chyffrous ar gael yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu arweinyddiaeth rheolaeth weithredol a chymorth i'n timau rheoli achosion a phontio sy'n cynnwys ein tîm plant â phrofiad o fod mewn gofal, gwasanaeth 15 oed a throsodd a phlant ag anableddau a phontio.
Rydym yn ymrwymedig i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd drwy gyflwyno ffyrdd cefnogol ac effeithiol o weithio mewn partneriaeth.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig a fydd, fel chwaraewr tîm, yn ymrwymedig i ansawdd, arloesedd, trawsnewid a gweithio mewn partneriaeth.
Byddwch yn fodel rôl ar gyfer dulliau arweinyddiaeth addasol i sicrhau dull clir, cynhwysol ac ymgysylltiedig ar draws Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ei gyfanrwydd i gryfhau cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn galluogi ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau i sicrhau cynllunio i ddylunio a darparu gwasanaethau gyda phlant a theuluoedd ac ar eu cyfer gan ganolbwyntio ar ganlyniadau.
Byddwch yn dangos y gallu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac yn cael cymorth sy'n helpu plant a theuluoedd i ffynnu.
Byddwch yn sicrhau'r safonau uchaf o arweinyddiaeth a rheolaeth weithredol. Byddwch yn dangos arddull gydweithredol a thosturiol ddatblygedig iawn, yn seiliedig ar werthoedd yn eich dull i arwain gofal diogel ac effeithiol i'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r gallu i ddylanwadu ar arloesi a newid trawsnewidiol ac ysgogi hyn.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau, y gwerthoedd, y wybodaeth, a'r profiad i roi arweinyddiaeth dosturiol, gydweithredol a dynamig i Wasanaethau Plant a Theuluoedd, byddem yn croesawu eich cais. Yn ddiweddar, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio'r model ymarfer arwyddion diogelwch ac felly byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar sut i ddefnyddio'r model hwn o weithio.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 28 Mai 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 09 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person