37 o oriau yr wythnos
Cyfnod Penodol tan Mawrth 2028
Darparu asesiad Therapi Celf arbenigol iawn, ymyrraeth ac arweinyddiaeth glinigol yn y Gwasanaeth Trawma i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n profi trawma, trallod emosiynol, anawsterau ymlyniad ac anghenion cymhleth o ran perthnasoedd.
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb ymreolaethol am gyflwyno ymyriadau therapiwtig arbenigol gan ddefnyddio seicotherapi celf a dulliau therapiwtig creadigol i gefnogi adferiad, rheoleiddio emosiynol, gwydnwch a llesiant.
Darparu ymgynghori proffesiynol, goruchwyliaeth fyfyriol ac arweiniad therapiwtig i Weithwyr Cymdeithasol, ymarferwyr cymorth i deuluoedd a staff amlddisgyblaethol sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan drawma. Bydd y rôl yn cyfrannu at brosesau diogelu, cynllunio gofal a rheoli risg drwy ddarparu fformiwleiddiad clinigol arbenigol a mewnwelediad therapiwtig.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, datblygu'r gweithlu ac ymgorffori ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac o gyflwr seicolegol ar draws y gyfarwyddiaeth.
PRIF GYFRIFOLDEBAU A GWEITHGAREDDAU:
Darparu ymyriadau Therapi Celf unigol a grŵp arbenigol iawn i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd ag anawsterau cymhleth o ran emosiynau, ymddygiad, datblygiad a pherthnasoedd.
Cynnal asesiadau therapiwtig cynhwysfawr, fformiwleiddiadau clinigol a chynllunio ymyriadau mewn perthynas â thrawma, ymlyniad, colled, cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Cynnal cyfrifoldeb am lwyth achosion cymhleth, gan arfer lefel uchel o ymreolaeth broffesiynol a barn glinigol.
Cyflwyno ymyriadau therapiwtig arbenigol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau creadigol, symbolaidd a dieiriau i gefnogi mynegiant emosiynol, cyfathrebu ac adferiad seicolegol.
Darparu ymgynghori proffesiynol a goruchwyliaeth fyfyriol i Weithwyr Cymdeithasol, staff cymorth i deuluoedd ac ymarferwyr eraill ynghylch ymarfer sy'n ystyriol o drawma, llesiant emosiynol a dulliau therapiwtig.
Cynorthwyo ymarferwyr i ddeall effaith emosiynol trawma, trawma eilaidd a dynameg perthnasoedd o fewn systemau teuluol.
Cyfrannu arbenigedd therapiwtig arbenigol at brosesau diogelu, cynllunio amddiffyn plant, cynllunio gofal a chymorth, cyfarfodydd amlddisgyblaethol a thrafodaethau achosion cymhleth.
Gweithio ar y cyd ag asiantaethau addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a phartneriaid i sicrhau cymorth cydgysylltiedig ac effeithiol i blant a theuluoedd.
Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi, gweithdai a sesiynau ymwybyddiaeth sy'n ymwneud â thrawma, ymlyniad, rheoleiddio emosiynol, cyfathrebu therapiwtig ac ymarfer therapiwtig creadigol.
Hyrwyddo ac ymgorffori ymarfer sy'n ystyriol o drawma a seicoleg ar draws y maes gwasanaeth.
Darparu arweinyddiaeth glinigol mewn perthynas â chyflwyno ymyriadau Therapi Celf diogel a moesegol yn unol â safonau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), codau ymddygiad proffesiynol a deddfwriaeth berthnasol.
Cynnal cofnodion clinigol, adroddiadau a dogfennaeth therapiwtig cywir, cyfrinachol ac o ansawdd uchel yn unol â gofynion proffesiynol a sefydliadol.
Sicrhau rheolaeth ddiogel a moesegol o waith celf, asesiadau a deunyddiau therapiwtig.
Cyfrannu at werthuso gwasanaethau, sicrhau ansawdd, archwilio, ymchwil a gweithgarwch gwella parhaus.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu llwybrau therapiwtig, polisïau a modelau arloesol o ymyrraeth yn y Gwasanaeth Trawma.
Cymryd rhan mewn datblygu proffesiynol, goruchwyliaeth glinigol a gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus i gynnal cofrestriad proffesiynol ac arbenigedd arbenigol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 4 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person